Mae Adverse Camber yn chwilio am werthuswr Cymraeg a/neu ddwyieithog i gefnogi ei brosiect hyfforddi, ymchwil ac ymgysylltu â threftadaeth cyfredol Cysur y Sêr sy’n archwilio storïau am Awyr y Nos.
Ffi: £2,200 ar sail cyfrifiad o 8 diwrnod o waith am £275 y dydd gan gynnwys astudiaethau achos ac adroddiad.
Am y Prosiect:
Mae pobl wedi bod yn dweud storïau am Awyr y Nos ar hyd y blynyddoedd. Storïau yw un o’r ffyrdd mwyaf dibynadwy y mae pobl wedi eu canfod i drosglwyddo gwybodaeth rhwng y cenedlaethau. Mae’r iaith yr ydym yn ei defnyddio i ddweud storïau yn effeithio ar yr ystyr y byddwn yn ei gael ohonynt. Mae’r prosiect hwn yn archwilio treftadaeth storïau am y cytser yng Nghymru – gan ddefnyddio chwedlau a phrofiadau o Gymru, yn ogystal â chwedlau Groeg sydd wedi rhoi eu henwau i lawer o’r cytser.
Cefndir y Prosiect a’i Werthuso:
Recriwtiwyd 10 o chwedleuwyr i arwain gweithgareddau chwedleua o safon uchel a chynnal ymchwil ar sail treftadaeth mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol, yn ystod wythnos Awyr Dywyll Cymru yn Chwefror 2026. Mae pob chwedleuwyr yn mynychu cwrs hyfforddi 3 diwrnod dwys yn Nhŷ Newydd ym mis Tachwedd 2025 i rannu eu dealltwriaeth bresennol o chwedlau a llên gwerin Cymraeg am y sêr, cofnodi’r hyn yr ydym yn ei wybod ar y cyd, yr hyn yr ydym am ei ddysgu/ddarganfod a chynllunio gweithgareddau ymchwil ac ymgysylltu i ehangu ein gwybodaeth a’n cyrraedd, trwy gydol gweddill y prosiect. Rhwng y cwrs hyfforddi ac wythnos Awyr Dywyll Cymru, bydd pob chwedleuwr yn creu recordiad sain Cymraeg o un o’r chwedlau yn ymwneud â’r sêr y gellir eu catalogio a’u huwchlwytho fel rhan o archif y prosiect ar Gasgliad y Werin.
Ein nodau cyffredinol yw:
• rhoi cyfleoedd i ragor o bobl glywed, dysgu, mwynhau ac ailadrodd storïau am Gytser yn yr iaith o’u dewis
• dathlu treftadaeth ddiwylliannol unigryw Cymru, yng nghyswllt Awyr y Nos
• cefnogi chwedleuwyr Cymraeg a dwyieithog i ymgorffori storïau am Awyr y Nos yn eu repertoire a throsglwyddo’r sgiliau chwedleua sydd yn eu cynnal
• cadw’r storïau yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghasgliad y Werin Cymru.
• cynyddu’r cyffro a’r diddordeb yn nhaith Adverse Camber trwy Gymru ym Mawrth 2026 gyda Stars and their Consolations
Am bwy yr ydym yn chwilio a’r swyddogaeth:
Rydym yn chwilio am werthuswr gyda phrofiad o gyflwyno gwerthusiad ar sail ymchwil, gyda phwyslais ar dreftadaeth a chyd-greu.
Rydym am gael gwybod am fanteision ac effaith y prosiect, beth wnaeth pobl ei fwynhau neu y byddent yn hoffi gweld mwy ohono ac argymhellion ar gyfer gwaith yn y dyfodol i adeiladu gwaddol yn y tymor hwy.
Rydym am roi adroddiad yn ôl i’r cyllidwyr am fuddion ac effaith eu buddsoddiad a dylanwadu ar randdeiliaid a buddsoddwyr y dyfodol.
Rydym am gael mewnwelediad i’n hymarfer ni ein hunain fel sefydliad, i’n helpu i ddatblygu prosiectau dilynol sy’n ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth a’n gweledigaeth.
Mae arnom angen gwerthuswr i:
• Sefydlu fframwaith gwerthuso gyda’r cyfranogwyr a’r partneriaid
• Ein helpu i gasglu dealltwriaeth ddefnyddiol i werthuso llwyddiannau a’r gwersi a ddysgwyd
• Casglu data meintiol gyda chefnogaeth chwedleuwyr a phartneriaid
• Cynnal gwerthusiad ansoddol annibynnol, gan gynnwys cyfweliadau/astudiaethau achos
• Rhoi sail i gasglu ffotograffau a ffilm i gofnodi’r gwersi a ddysgwyd, yn neilltuol am y sesiwn breswyl yn Nhŷ Newydd a’r gweithgareddau yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Cymru.
• Crynhoi’r hyn a ddysgir mewn adroddiad hawdd ei ddeall y gellir ei rannu gyda Thîm Adverse Camber, Ymddiriedolwyr a chyllidwyr y prosiect
Llinell amser:
8 Hydref - Lansio’r prosiect
24 Hydref - Dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb
29 Hyd - Dewis Gwerthuswr
4 - 6 Tachwedd - Cwrs Preswyl Tŷ Newydd (y dewis i fynychu)
17/24 Tach – Cysylltu Ar-lein â’r Chwedleuwyr (y dewis i fynychu)
2 Chwef – Cysylltiad Gwerthuso Ar-lein gyda’r Chwedleuwyr gan sicrhau bod y dulliau casglu data yn rhai y cytunwyd arnynt ac yn ddefnyddiol (gofyn mynychu)
13 - 22 Chwef – Gweithgareddau Wythnos Awyr Dywyll Cymru (y dewis i fynychu i gasglu tystiolaeth)
22 Chwef hyd 2 Mawrth - casglu/coladu tystiolaeth yn annibynnol
2 Mawrth – Cysylltiad Gwerthuso Ar-lein gyda’r Chwedleuwyr (arwain y sesiwn i ystyried y gwersi a ddysgwyd yn ystod y prosiect a’i effaith)
30 Mawrth - ysgrifennu’r gwersi allweddol a ddysgwyd a’r argymhellion i’w rhannu gyda’r partneriaid allweddol, chwedleuwyr ac Adverse Camber erbyn 30 Mawrth
Meini Prawf ar gyfer Gwerthuswr Llwyddiannus
• Hanes o werthuso ar sail ymchwil, gyda phwyslais ar dreftadaeth a chyd-greu.
• Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg – i gynnal cyfweliadau gyda’r cyfranogwyr
• Gwerth am arian – yn gallu cyflawni o fewn y gyllideb a’r amserlen
Er mwyn mynegi diddordeb, anfonwch:
• Ddatganiad byr am eich diddordeb, yn amlinellu profiad perthnasol a’ch hanes blaenorol (cyfateb i 1 ochr A4) a CV a manylion sut y byddech yn dyrannu’r amser/ffi. Gallwn hefyd rannu briff manylach gyda gwybodaeth am ein dulliau o fesur llwyddiant os byddai hynny’n ddefnyddiol.
Dyddiad Cau: Anfonwch e-bost at naomi@adversecamber.org