GŴYL BEAUMARIS

Swydd: Gweinyddwr (rhan amser)

Cyflog: £5,000

Disgrifiad Swydd:

Dathliad blynyddol o gerddoriaeth a'r celfyddydau yw Gŵyl Beaumaris, a gynhelir dros bump i saith diwrnod yn ystod cyfnod gŵyl y banc ar ddiwedd mis Mai.  Ar hyn o bryd rydym yn gwahodd ceisiadau am swydd gweinyddwr rhan amser i reoli rhaglen amrywiol o gyngherddau a digwyddiadau yr Ŵyl.  Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i unigolyn sydd â sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol cryf.  Mae gwybodaeth am yr iaith Gymraeg a rhywfaint o gynefindra â'r sector cerddoriaeth a'r celfyddydau yng Ngogledd Cymru yn ddymunol.  

Bydd angen i'r gweinyddwr ddangos sgiliau rheoli amser effeithiol, gan fod y llwyth gwaith yn amrywio trwy gydol y flwyddyn rhwng cyfnodau tawelach ac amseroedd lle bydd mwy o weithgaredd.  Er y gellir cyflawni llawer o’r cyfrifoldebau gweinyddol o bell, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael ar gyfer ymrwymiadau ar y safle sy'n arwain at wythnos yr Ŵyl, ac yn bresennol trwy gydol yr Ŵyl mewn lleoliadau a digwyddiadau yn ystod y dydd a gyda'r nos yn ôl yr angen.

Mae'r dyletswyddau'n cynnwys:

  • Darparu gwybodaeth reolaidd i Gyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl ynghylch â thasgau a materion yr Ŵyl fel sy'n briodol
  • Amserlennu a threfnu cyfarfodydd yr Ŵyl, dosbarthu agendâu a pharatoi cofnodion
  • Paratoi a chyflwyno ceisiadau cyllido ar gyfer yr Ŵyl
  • Gwasanaethu fel y prif gyswllt ar gyfer ymholiadau cyffredinol a chydlynu â phersonél allweddol yn lleoliadau'r Ŵyl
  • Rheoli contractau ar gyfer perfformwyr ac artistiaid ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Artistig, gan gynnwys trefnu teithio a llety
  • Cydweithio â'r Swyddog Marchnata i ddatblygu a gweithredu cynlluniau marchnata
  • Goruchwylio cynhyrchu a dosbarthu ffurflen archebu a rhaglen yr Ŵyl, gan weithio gyda’r Cyfarwyddwr Artistig a’r Swyddog Marchnata i gasglu bywgraffiadau a ffotograffau yr artistiaid, a thrafod costau argraffu
  • Cynnal a diweddaru gwefan yr Ŵyl ar y cyd â'r Swyddog Marchnata
  • Goruchwylio gwerthiant tocynnau yr Ŵyl a chasglu holl ddata y swyddfa docynnau
  • Trefnu llogi a thiwnio'r piano yn ôl yr angen yn ystod wythnos yr Ŵyl
  • Creu 'rhestr o bethau i’w gwneud' cynhwysfawr cyn wythnos yr Ŵyl, gan amlinellu'r cyfrifoldebau a gofynion dyddiol ar gyfer rolau fel y rheolwr llwyfan, rheolwr blaen y tŷ, rheolwr y swyddfa docynnau, y gwerthwyr rhaglenni, y stiwardiaid, yr ysgrifennydd ffrindiau, staff y swyddfa docynnau pop-up, y tiwniwr piano a'r cydlynwyr trafnidiaeth
  • Cydlynu paratoi a dosbarthu ffurflenni adolygu cynulleidfa mewn partneriaeth â'r Swyddog Marchnata
  • Sicrhau taliadau amserol i holl berfformwyr yr Ŵyl a'r darparwyr gwasanaethau
  • Cynnal cronfa ddata'r Ŵyl

Ceisiadau:

I wneud cais, anfonwch eich CV ynghyd â llythyr eglurhaol at Dr Rhiannon Mathias, Cadeirydd Pwyllgor yr Ŵyl, at gwylbeaumarisfestival@gmail.com erbyn dydd Llun, 1 Medi 2025. Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweld (ar-lein) yn ystod wythnos 8 Medi.
 

Dyddiad cau: 01/09/2025