Diolch i grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym yn edrych i ailwampio gwefan yr Ŵyl. Bydd y ffocws ar ddiweddariad o arddull, strwythur a chynnwys, gan gynyddu hyblygrwydd i wasanaethu meysydd newydd o weithgaredd yr Ŵyl a gwella'r rhyngwyneb â darparwr ein swyddfa docynnau, Spektrix. Mae'n hanfodol bod y wefan yn gwbl ddwyieithog Gymraeg/Saesneg. 

Sylwch fod yn rhaid defnyddio'r cyllid ar gyfer y rolau hyn erbyn mis Rhagfyr 2024, felly mae argaeledd i gyflawni'r briff o fewn yr amserlen honno yn hanfodol.

Dilynwch y ddolen isod i weld y briff ar gyfer y rolau hyn a rolau eraill sydd ar gael, a manylion am sut i gysylltu â ni os hoffech drafod unrhyw un o'r rolau ymhellach.

Dyddiad cau: 15/07/2024