Dewch i agoriad Gwales yn Oriel 2, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

6yp, dydd Sadwrn 9 Medi.

Mae'r arddangosfa yn rhedeg tan 13 Hydref.

Mae Gwales yn cyflwyno naratif ffuglen o grŵp o bobl sydd, ar ôl blynyddoedd o gael eu prisio allan o gartrefi eu teulu, wedi twnelu i mewn i bentwr o fyrnau gwair mawr i greu eu cartref newydd. O'r hyn sydd wrth law maen nhw'n ceisio ail-greu eu diwylliant. Maent yn trefnu delweddau o'u heiconau diwylliannol a'u heiddo olaf, rhai'n arwyddocaol, rhai yn banal. Maent yn bragu cwrw ac yn torri recordiau mewn ymgais i ail-greu'r amseroedd da, ond maent yn dechrau drifftio i ebargofiant.

Cefnogir Gwales gan Gyngor Celfyddydau Cymru.