Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Elusennol Max Reinhardt, Engage, y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysgu Orielau a’r Gymdeithas Genedlaethol Awduron mewn Addysg (NAWE), gyhoeddi Dyfarniadau MaxLiteracy 2025-26. 

 
Mae MaxLiteracy yn gyfle unigryw ar gyfer dysgu cydweithredol a rhyngddisgyblaethol rhwng awduron creadigol mewn addysg, arbenigwyr ymgysylltu yn y celfyddydau gweledol ac athrawon/addysgwyr i ddatblygu arferion arloesol a chreadigol sy’n meithrin llythrennedd creadigol gyda phobl ifanc. Er mwyn cefnogi gwell dealltwriaeth a gwelededd uwch i’r celfyddydau gweledol ac arferion ysgrifennu gyda phlant a phobl ifanc, bydd Dyfarniadau 2025-26 yn cefnogi ceisiadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig gan gynnwys rhai sy’n edrych ar lythrennedd ac ysgrifennu creadigol wedi’u hysbrydoli gan gelf yn Saesneg ac mewn ieithoedd a thafodieithoedd eraill a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig. Mae prosiectau â llythrennedd ac ysgrifennu creadigol wedi’u hysbrydoli gan gelf mewn unrhyw iaith yn gymwys, fodd bynnag ar gyfer y Dyfarniadau y tro hwn, mae gennym ni ddiddordeb penodol mewn cynigion sy’n archwilio’n greadigol yn y Gymraeg, Gaeleg yr Alban a’r Wyddeleg. 

 

Gwahoddir sefydliadau celfyddydol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys orielau ac amgueddfeydd celf, i gyflwyno cynigion i gynnal MaxLiteracy yn 2025-26 gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Max Reinhardt, fydd yn rhoi Dyfarniad o £7,000 i bedwar sefydliad er mwyn cefnogi rhaglen benodol o ysgrifennu’n seiliedig ar gelf gyda phobl ifanc mewn lleoliadau dysgu.