Dyma eich gwahodd i roi inni ddyfynbris am y gwasanaethau yn y briff canlynol a'r Atodlen brisiau atodedig.

Cafodd y pandemig effaith fawr ar ein sector – y gweithwyr, y gynulleidfa a’r cyfranogwyr.

Mae bron pob lleoliad wedi'i gau ers Mawrth 2020, ac mae cyfleoedd artistiaid a gweithwyr llawrydd i weithio wedi’u crebachu’n sylweddol.

Ond mae rhai pethau gwych ac ysbrydoledig wedi digwydd hefyd. Rydym ni am ddathlu gwytnwch a dychymyg y celfyddydau a chreadigrwydd ein sefydliadau a'n hartistiaid.

Bydd y celfyddydau'n bwysig i adfywio pobl, lleoedd a chymunedau a chyfrannu at adfywiad yr economi.

Mae'r celfyddydau'n barod i ailddechrau eu gwaith cyhoeddus gan ei wneud yn fwy arloesol pan ddaw’r cyfyngiadau i ben. Bydd y dyfodol hefyd yn well na’r gorffennol gan greu cymdeithas sy'n decach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy.

Rhaid i bawb cael cysur, mwynhad ac ysbrydoliaeth y celfyddydau.

Rhowch ddyfynbris manwl i gynhyrchu fideo 5-10 munud a nifer o rai byrion 20 eiliad yr un i’w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol. Rhaid i'r fideos fod yn ddwyieithog neu fersiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg.