Mae GwyrddNi, mudiad gweithredu ar newid hinsawdd yng ngogledd-orllewin Cymru yn awyddus i benodi tîm neu bartneriaeth gymwysedig, i ddatblygu a darparu pecyn gwerthuso datblygiadol creadigol ac ailadroddol dwyieithog ar gyfer ei rhaglen 4.5-mlynedd. 

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd o fewn Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd yr ail gymal hwn o waith Gwyrddni yn datblygu gallu pum cymuned yn yr ardal i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac i weithio tuag at fod yn gymunedau cynaliadwy, sydd wedi eu datgarboneiddio ac sydd ag economïau lleol llewyrchus. 

Dylai'r gwerthusiad datblygiadol gasglu straeon pobl go iawn sy'n dangos sut mae gwaith GwyrddNi yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac yn awgrymu patrwm o newid systematig ehangach, tra hefyd yn ysbrydoli eraill i weithredu.

Bydd y tendr gwerthuso llwyddiannus yn rhannu ffyrdd creadigol, chwareus ac ysbrydoledig o gasglu adborth, yn esbonio sut y byddant yn cynnal gwerthusiad dwyieithog, ac yn sicrhau cyfleoedd ar gyfer dysgu ailadroddol (iterative learning) yn ystod cyfnod y prosiect. Mae manylion llawn, gwybodaeth am fethodoleg a matrics sgorio i’w gweld yn y ddogfen Gwahoddiad i Dendro. 

 

Dyddiad cau: 04/07/2024