Y Comisiynwyr
Cyngor Celfyddydau Cymru
Elusen gofrestredig yw Cyngor Celfyddydau Cymru a sefydlwyd drwy Siarter Brenhinol yn 1994. Mae’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, a dyma’r sefydliad swyddogol sy’n ariannu ac yn datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n gyfrifol hefyd am ddosbarthu arian y Loteri Genedlaethol i’r celfyddydau yng Nghymru.
Y Cyd-destun
Fis Medi 2020, cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n cyflwyno gweledigaeth gyffredin ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol. Diben y bartneriaeth yw helpu i feithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a’r amgylchedd naturiol, a hynny fel rhan o ymrwymiad cyffredin i wella llesiant amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Creodd y ddau sefydliad y Rhaglen Natur Greadigol, sydd wedi cyflawni dau gam o weithgarwch yn 2022 a 2023-25 gan gynnwys y Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol a Chynllun Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi pennu blwyddyn pontio ar gyfer y Rhaglen Natur Greadigol yn 2025/26 a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu'r posibilrwydd o 'gonsortiwm cyfiawnder hinsawdd a chysylltiad natur' o sefydliadau amgylcheddol a rheoli tir, ac ystyried opsiynau ar gyfer strwythur, cyfansoddiad ac arian y grŵp.
Mae'r gwahoddiad i dendro ar gyfer Darparwr Gwasanaeth i ymgymryd â'r camau canlynol:
- cynllunio a chyflwyno 4 cyfarfod o'r 'Consortiwm Cyfiawnder Hinsawdd a Chysylltiad â Natur' yn 2025/26
- cyflwyno adroddiad cwmpasu sy'n archwilio modelau strwythuro posibl a modelau codi arian ar gyfer gwaith y Consortiwm y tu hwnt i 2025/26
Mae’n bosibl i ymarfer cwmpasu Consortiwm Cyfiawnder Hinsawdd a Chysylltiad Natur 2025/26 gael ei gynnal gan sefydliad neu weithiwr llawrydd sydd â phrofiad hysbys o godi arian a chyflwyno ymchwil neu ymarferion cwmpasu i lywio'r gwaith o ddatblygu mentrau partneriaeth newydd.
Darllenwch yr wybodaeth yn y Gwahoddiad i dendro isod, a Cyflwynwch eich tendr trwy GwerthwchiGymru trwy glicio ar y ddolen yma erbyn hanner dydd 29 Gorffennaf 2025.
Gellir anfon ceisiadau am eglurhad drwy borth GwerthwchiGymru tan hanner dydd 22 Gorffennaf 2025. Er mwyn sicrhau bod Darparwyr Posibl yn cael eu trin yn deg, rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi’r cwestiynau a’r ceisiadau am eglurhad a anfonir gan Ddarparwyr Posibl ynghyd â’n hymatebion ni (heb enwi ffynhonnell y cwestiynau) drwy borth GwerthwchiGymru. Bydd y porth yn rhoi hysbysiadau i Ddarparwyr Posibl am unrhyw ddiweddariadau.
Bydd y negeseuon egluro yn cael eu hanfon drwy borth GwerthwchiGymru.