Ar ôl dros 55 mlynedd o hyrwyddo gwaith cyfansoddwyr byw, gwneud gwaith ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn Ne Cymru a thu hwnt, a meithrin partneriaethau rhyngwladol unigryw, mae Gŵyl Bro Morgannwg wedi dod i ben.
Y cyfansoddwr John Metcalf MBE sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl ers ei sefydlu, ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r Ŵyl wedi comisiynu ugeiniau o gyfansoddwyr, wedi llwyfannu perfformwyr o safon fyd-eang o bob rhan o’r byd, ac wedi bod yn arloeswr ym maes cerddoriaeth newydd – diolch i lu o gyllidwyr a chefnogwyr, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bro Morgannwg ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Er mwyn parchu’n llwyr feddylfryd John fel cyfansoddwr a galluogwr, a gan gofio gwaith hynod yr Ŵyl, bydd yr elusen yn ffarwelio drwy ddosbarthu grantiau i gyfansoddwyr yng Nghymru, gan fod â dyhead i gefnogi’r artistiaid a’r gerddoriaeth mwyaf beiddgar trwy’r gronfa hon. Bydd y grantiau yn cael eu gweinyddu gan Tŷ Cerdd ar ran yr Ŵyl.
Bydd nifer cyfyngedig o grantiau rhwng £2k a £6k yn cael eu dyfarnu i gynigion sy’n rhoi llwyfan i waith cyfansoddwyr clasurol cyfoes sy’n dod o Gymru, a gwaith sy’n dangos cydweithredu rhwng cyfansoddwr/cyfansoddwyr a pherfformiwr / perfformwyr. Mae’r gronfa gyfan tua £23k, a rhagwelwn y rhoddir un neu ddau o grantiau ar y trothwy uchaf, ynghyd â nifer o ddyfarniadau llai.
Gall unigolion neu sefydliadau wneud cais, a bydd grantiau’n cefnogi gweithgarwch sy’n digwydd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Rhagfyr 2026.
Dyddiad cau: 12:00 ganol dydd ar ddydd Llun 20 Ionawr