Mae Gathering Engage 2025 yn dathlu celfyddyd ac arloesi mewn ymgysylltu, cyfranogi a dysgu yn y celfyddydau gweledol, yn erbyn cefnlen Bradford 2025, Dinas Diwylliant y DU a Gwobr Turner. Cynhelir y rhaglen dros dri diwrnod, 10 – 12 Tachwedd 2025.

Ymunwch â chydweithwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt, i gysylltu, trafod a dysgu drwy ymgysylltu â’r celfyddydau gweledol ac addysg orielau dros y 50 mlynedd ddiwethaf hyd at heddiw.  

Caiff cynrychiolwyr gymryd rhan mewn gweithdai creadigol, trafodaethau rhyngweithiol a chyflwyniadau, gyda chyfleoedd i brofi Bradford 2025 a gweld arddangosfa Gwobr Turner fel rhan o gyrion Gathering.

Caiff aelodau ostyngiadau sylweddol ar docynnau Gathering