Mae galwad olaf wedi mynd allan i gerddorion ifanc talentog yng Nghymru i geisio am deitl mawreddog a gwobrau ariannol o £4,000.
Dywed y cyfansoddwr brenhinol Paul Mealor y gallai cystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru roi hwb mawr i'w gyrfaoedd newydd.
Mae'r gystadleuaeth bellach yn ei hail flwyddyn ar ôl lansiad llwyddiannus y llynedd. Mae’r alwad wedi mynd allan i offerynwyr a chantorion gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2025 yn ystod yr ŵyl yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy a gaiff ei chynnal rhwng Medi 11 a 20.
Mae angen i unrhyw un sydd eisiau cystadlu uwchlwytho clip fideo neu sain a chwblhau ffurflen gais cyn y dyddiad cau terfynol am 5pm ddydd Gwener, 4 Gorffennaf. Mae rhagor o fanylion am sut i gystadlu ar gael ar wefan yr ŵyl, https://nwimf.com/cy.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei hariannu gan brif noddwyr yr ŵyl, sefydliad gofal Parc Pendine drwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine sy'n cefnogi gweithgareddau cymunedol a chelfyddydol. Bydd yr enillydd yn codi Tlws Pendine ynghyd â gwobr ariannol o £2,000. Mae yna ail wobr o £1,000 a bydd dau gystadleuydd arall sy’n dod yn agos i’r brig yn derbyn £500 yr un.
Bydd perfformiadau'r pedwar yn y rownd derfynol yn cael eu darlledu'n fyw ar BBC Radio Cymru. Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw'r Athro Helena Gaunt, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; Rebecca Evans CBE, y soprano operatig byd-enwog; ac Alun Jones, Is-gadeirydd Gweithredol yr ŵyl a chyn Bennaeth Ysgol Gerdd Chetham, Manceinion.
Tra bydd y beirniaid yn brysur yn trafod, bydd y gynulleidfa yn cael ei diddanu gan enillydd y llynedd, Heledd Wynn Newton, o Gaerdydd.
Dyfeisiwyd y gystadleuaeth gan yr Athro Mealor mewn cydweithrediad â Mario Kreft MBE a'i wraig, Gill, perchnogion Parc Pendine. Dywedodd yr Athro Mealor: "Nid yw'n rhy hwyr i gerddorion ifanc gymryd rhan yn y gystadleuaeth – mae 10 diwrnod ar ôl o hyd.”
"Rydyn ni eisoes wedi cael llwyth o geisiadau ond rydym am wneud yn siŵr ein bod ni'n estyn allan at sêr y dyfodol ym mhob cwr o Gymru. Os oes unrhyw offerynwyr neu gantorion ifanc sydd eisiau cael cyfle i ennill miloedd o bunnoedd mewn gwobr ariannol ac i berfformio'n fyw ar BBC Radio Cymru, mae angen iddyn nhw roi tân arni. Mae'n gystadleuaeth arbennig iawn sy'n gallu lansio gyrfa."
"Mae'r gystadleuaeth yn agored i gerddorion ifanc sydd naill ai wedi'u geni neu'n byw yng Nghymru neu sy'n ddinasyddion Cymreig sy'n byw dramor. I fod yn gymwys i gystadlu rhaid i ymgeiswyr fod o dan 21 oed ar Ionawr 1, 2025. Os ydych chi o dan 18 oed, bydd angen caniatâd eich athro neu eich rhiant arnoch i gystadlu.”
"Bydd angen i’r ymgeiswyr uwchlwytho eu perfformiad trwy ddolen ar wefan yr ŵyl a bydd y perfformiad wedyn yn cael ei feirniadu'n ddienw. Bydd grŵp o ymgeiswyr yn cael eu dewis i gystadlu yn y rownd gynderfynol i berfformio rhaglen 10 munud, gyda phedwar yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol ar y noson ganlynol."
Dywedodd Mario Kreft: "Ar ôl llwyddiant y gystadleuaeth agoriadol y llynedd, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at gystadleuaeth 2025. Fel Paul, mi fyddwn i’n annog cerddorion ifanc ledled Cymru i gyflwyno eu ceisiadau cyn gynted ag y bo modd. Fedra i ddim disgwyl i'w clywed yn perfformio, ac i ddilyn eu dyfodol ym myd cerddoriaeth."
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Gwener, 4 Gorffennaf, a gellir lawrlwytho ffurflenni cais yn: https://nwimf.com/cy/2025-pendine-young-musician-of-wales-competition
Mae tocynnau a rhagor o fanylion am raglen yr ŵyl a chystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Pendine ar gael ar-lein yn https://nwimf.com
Mae tocynnau hefyd ar gael o Cathedral Frames, Llanelwy - 07471 318723 (Dydd Mercher – Dydd Gwener, 10 - 4) a Theatr Clwyd dros y ffôn - 01352 344101 (Dydd Llun – Dydd Sul, 10 - 8)