Comisiwn: Dod â Hanesion Pobl Dduon, Cymreig i Fywyd

Ffî: £500 fesul 1000 o eiriau wedi'u hysgrifennu yn ôl cais. Yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Rydym yn chwilio am ysgrifenwyr, ymchwilwyr, a phobl greadigol Duon, Cymreig o’r cymunedau diaspora Affricanaidd a Charibïaidd sy'n byw yng Nghymru – i gyfrannu darnau ysgrifenedig sy'n dod â hanesion Pobl Dduon, Cymreig i fywyd.

Rydym yn gwahodd pobl i adrodd straeon sy'n greadigol, yn ymwybodol, ac sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn. Dylai'r canlyniad fod tua 1,000 o eiriau, wedi'i ysgrifennu mewn arddull newyddiaduraethol neu ffeithiol, gyda'r nod o'i ddefnyddio fel adnoddau addysgol a'u cyhoeddi ar ein gwefan. 

Bydd eich gwaith yn cyfrannu at ‘Kumbukumbu’, platffform digidol sy'n mapio etifeddiaeth Gymreig-Affricanaidd drwy adrodd straeon a hanes. Mae'r prosiect yn archwilio sut y gall Cymru - gyda'i hetifeddiaeth ei hun o wladychu a diwylliant dwfn o gofio trwy iaith, lle, a stori - fod yn le o rannu atgofion, undod, ac ailddychmygu.  

Beth Rydym yn Chwilio Amdano:

Mae gennym ddiddordeb mewn etifeddiaeth a diwylliant Cymreig-Affricanaidd, ac rydym yn diffinio hyn  fel unrhyw gysylltiad rhwng Cymru ac Affrica. Mae hyn yn cynnwys:

  • Bywydau a chyfraniadau pobl o darddiad Affricanaidd a Charibiaidd yng Nghymru
  • Hanes pobl o Gymru yn Affrica
  • Straeon sy'n cysylltu â thirnodau neu leoliadau penodol – adeiladau, cerfluniau, ffyrdd, porthladdoedd, safleoedd, neu eitemau – sy’n ein helpu i wreiddio atgofion yn y lle
  • Rydym yn croesawu cwmpas hanesyddol eang: o'r cyfnod Rhufeinig i Gymru gyfoes. Rydym eisiau straeon sydd yn heriol, yn gyfrinachol, yn boenus, yn ysbrydoledig, ac unrhyw beth yn y canol.
  • Henebion sydd wedi cael eu hadolygu’n ddiweddar sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth a hanes trefedigaethu
  • Mannau o bwysigrwydd i hanes neu ddiwylliant Pobl Ddu Cymru (er enghraifft, Sefydliad Affricanaidd Bae Colwyn, The Casablanca yn Nociau Caerdydd).
  • Pobl o bwysigrwydd fel Billy Boston, 'Black Jack', Patti Flynn, Betty Campbell, Shirley Bassey, Cuthbert Taylor, Jessie Donaldson, a llawer mwy.
  • Digwyddiadau Pwysig, fel Brwydr Abertawe, Terfysgoedd Hil 1919, hanes Diddymu, Activiaeth a Gwrthwynebiad yng Nghymru.

Rydym yn arbennig o awyddus i gynnwys hanesion sydd yn cael eu tangynrychioli, sy'n gallu cael eu hepgor, eu hanghofio, neu eu hesbonio.

Pwy Sydd yn Cael Gwneud Cais:

  • Ysgrifenwyr ymchwilwyr, artistiaid Duon o Gymru.
  • Unigolion o darddiad Affricanaidd a Charibiaidd, neu o'r diaspora Affricanaidd sy'n byw yng Nghymru
  • P'un ai ydych chi'n brofiadol neu'n newydd, os oes gennych chi syniad cryf ac angerdd am adrodd straeon, rydym eisiau clywed gennych chi.

Sut i Wneud Cais:

Os gwelwch yn dda, anfonwch y canlynol atom ni:

Sampl byr, ysgrifenedig (150-200 o eiriau) sy'n amlinellu eich syniad. Ni ddylai hyn fod yn ddarn llawn o ysgrifennu, ond fe ddylai roi teimlad o sut y bydd y darn terfynol yn cael ei ddarllen.

  • Bio byr ac/neu ddolenni perthnasol neu samplau o waith blaenorol.
  • Anfonwch gais i: ophelia.dossantos@ssap.org.uk (a rhoi Writer Call Out fel y pwnc yn yr e-bost).

Dyddiad cau: 12pm, 14 Medi 2025