Mae Adverse Camber yn chwilio am 8 o Gyfarwyddiaid/ Chwedleuwyr/ Storïwyr sy'n byw yng Nghymru ac yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog, i fod yn rhan o brosiect, fydd yn archwilio straeon am Awyr y Nos drwy gyfrwng hyfforddiant, ymchwil ac ymwybyddiaeth o'n treftadaeth.
Byddwn yn cynnig :
• Ffi o £1,600 fesul artist, ynghyd â threuliau teithio (hyd at £150 y pen)
• Llety a holl brydau bwyd yn Nhŷ Newydd
• Deunyddiau Hyfforddi a Ffioedd Hyfforddwyr yn Nhŷ Newydd wedi'u cynnwys yn llawn
• Cefnogaeth tîm y prosiect ar gyfer rhwydweithio a rhannu sgiliau drwy gydol y prosiect
Dadansoddiad:
◦ 3 diwrnod o gydnabyddiaeth hyfforddi £350 (Tachwedd 2025)
◦ Comisiwn Stori Sain Iaith Gymraeg (Chwedl Roegaidd) £200 (Rhagfyr)
◦ 2 ddiwrnod i gynllunio a gwerthuso £300 (Tachwedd - Ebrill)
◦ 3 diwrnod i gyflwyno prosiect £750 (Wythnos Awyr Dywyll Cymru Chwefror 26)
Sesiwn Galw Heibio ym mis Gorffennaf
i'w defnyddio ar Event Brite a 'r Cyfryngau Cymdeithasol
SESIWN HOLI AC ATEB : Gyfarwyddiaid / Chwedleuwyr / Storïwyr sy'n byw yng Nghymru
Dydd Llun 28 Gorffennaf, 6-7 pm
EVENTBRITE
Sesiwn Galw Heibio ym mis Awst
i'w defnyddio ar Event Brite a 'r Cyfryngau Cymdeithasol
SESIWN HOLI AC ATEB : Gyfarwyddiaid / Chwedleuwyr / Storïwyr sy'n byw yng Nghymru
Dydd Llun 18fed o Awst, 6-7 pm
EVENTBRITE
Cewch wybod mwy am y cyfle ar gyfer 8 Cyfarwydd/ Chwedleuwr / Storïwr, sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog, i ymuno efo'r Prosiect Treftadaeth 'Cysur y Ser'
Sesiwn anffurfiol fydd hon i rannu mwy o wybodaeth a bydd cyfle i ofyn cwestiynau. Adverse Camber fydd yn llywyddu ynghyd â Tamar Eluned Williams a Mair Tomos Ifans. Os gwelwch yn dda archebwch eich lle yn y sesiwn a chofrestrwch ymlaen llaw ar Zoom.