Sioe 40-mun o hyd ar gyfer plant 3+ a’u teuluoedd yw Mali a’r Môr/Mali and the Sea, sy’n cynnwys chwedleua (adrodd stori), pypedwaith a phypedau cysgod, a chaneuon gwreiddiol. Mae’n seiliedig ar y gyfres boblogaidd o lyfrau “Molly” gan Malachy Doyle. Mae’r sioe wedi’i chreu ar gyfer llyfrgelloedd, neuaddau ysgol, gwyliau, a lleoliadau perfformio anffurfiol eraill. Mae gan y sioe ddwy berfformwraig sy'n adrodd straeon yn ddwyieithiog yn Gymraeg a Saesneg, defnyddio pypedau, ac yn canu.
Yn dilyn cyfnod ymchwil a datblygu llwyddiannus, a thaith fach o amgylch Sir Fynwy, bydd Mali a’r Môr yn cychwyn ar daith uchelgeisiol o amgylch llyfrgelloedd De, Dwyrain a Chanolbarth Cymru rhwng Chwefror a Mehefin/Gorffennaf 2025, wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i gefnogi gan wasanaethau llyfrgelloedd lleol.
Rydym ni nawr yn recriwtio ar gyfer perfformiwr “swing”/amgen i ymuno â’n tîm i gefnogi un o’n perfformiwr sydd ag anghenion mynediad yn gysylltiedig ag iechyd. Rydym yn disgwyl y bydd y perfformiwr “swing” yn ymuno â ni ar gyfer proses ail-ymarfer y sioe, ac yna’n cael ei gontractio pan fydd angen cymorth perfformio yn ystod y daith. Gweler manylion pellach am argaeledd a phatrymau gwaith isod.
Manyleb perfformiwr:
Unrhyw oedran/rhyw
Bydd y rôl yn cynnwys adrodd straeon, canu, pypedwaith ac aml-rolio “Mami” a “Dada”
Hanfodol:
Profiad o berfformio i blant a theuluoedd
Lefel uchel o ruglder yn y Gymraeg (byddwn yn ystyried dysgwyr Cymraeg o safon uchel sydd yn gallu sgwrsio’n rhugl a sydd â rhywfaint o allu byrfyrfyrio yn yr iaith)
Profiad o weithio mewn lleoliadau cymunedol
Cantores/wr gryf sydd yn gallu dysgu harmonïau
Ar gael ar gyfer ymarferion ym mis Chwefror/Mawrth 2025
Hyblygrwydd ar gyfer dyddiadau teithio Chwefror-Mehefin/Gorffennaf 2025
Dymunol
Profiad o ddyfeisio
Profiad o adrodd straeon ar lafar
Profiad o aml-rolio nifer o rannau gwahanol
Profiad o weithio gyda phlant blynyddoedd cynnar
Profiad o bypedwaith
Nodyn ar argaeledd a phatrymau gwaith:
- Byddai’r rôl hon yn fwyaf addas i berfformiwr sy’n awyddus i ymestyn eu profiad proffesiynol o bypedwaith, dyfeisio, gweithio gyda chynulleidfaoedd blynyddoedd cynnar a/neu adrodd straeon.
- Mae tîm Mali a’r Môr yn tueddu i weithio 2-3 diwrnod yr wythnos oherwydd anghenion gofal plant a gofal iechyd. Rydym yn dîm 2-berson clos (Tamar a Naomi) sydd wedi cydweithio ar lawr o brosiectau a sydd nawr eisiau dod â’r cydweithiwr cywir i mewn fydd yn dod yn aelod hirdymor o dîm y sioe. Ein hethos fel tîm yw i weithio’n hyblyg a gyda dealltwriaeth o anghenion mynediad ein gilydd, a byddwn yn gwneud yr un peth â chi.
- Mae’r daith rydym ni’n ei chynllunio’n un helaeth, ond nid ydym yn disgwyl i’r perfformiwr “swing” gadw ei hun ar gael am y cyfan, dim ond i weithio’n hyblyg gyda ni i gefnogi anghenion mynediad ein perfformiwr.
- Mae’n debyg y bydd rhai perfformiadau yn digwydd ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol.
- Yn dilyn y daith hon, mae’n debygol iawn y bydd cyfleuoedd yn y dyfodol i berfformio Mali a’r Môr, gan gynnwys y tu hwnt i Gymru, a byddem yn awyddus i weithio gyda rhywun sydd â diddordeb mewn perthynas gweithio hirdymor gyda ni.
- Rydym yn bwriadu ail-ymarfer y sioe yn ystod yr wythnosau hyn (3 diwrnod yr wythnos): wythnos yn cychwyn 3 Chwefror, w/c 10 Chwefror, w/c 17 Chwefror. Rhagwelir y bydd ymarferion yn cael eu cynnal yn Y Fenni. Y gobaith yw y bydd y perfformiwr “swing” yn gallu ymuno gyda ni am y rhan fwyaf o’r amser hwn. Byddwn yn ystyried gwahanol ddyddiadau ymarfer ar gyfer y perfformiwr cywir.
Ffî: £1200.00 wedi’i sicrhau ar gyfer ymarferion (dysgu’r rôl), diwrnodau perfformio i’w ddilyn am £185.00 y dydd (nifer y diwrnodau i’w cadarnhau).
I ymgeisio:
Plîs danfonwch CV perfformio, llythyr byr sydd yn egluro eich diddordeb yn y rôl a fideo byr (llai na 5 mun yn ddelfrydol) ohonoch chi’n adrodd stori (mae’n iawn i ffilmio hwn ar ffôn!) at tamarelunedwilliams@hotmail.co.uk. Byddem yn ddiolchgar pe gallech chi ddefnyddio Cymraeg yn eich stori. Dyddiad cau Dydd Gwener 3ydd Ionawr 5yh.
Oherwydd natur arbenigol y rôl hon a’n gofynion penodol, rydym yn debygol o drefnu sgyrsiau cyflym ar Zoom yn ogystal ag o bosibl eich gwahodd i gwrdd â ni yn bersonol. Bydd y sgyrsiau hyn yn cael eu cynnal yn ystod wythnosau’n cychwyd 6 a 13 Ionawr 2025.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu angen eglurhad, e-bostiwch tamarelunedwilliams@hotmail.co.uk. Rydym yn hapus iawn i drafod y prosiect ymhellach gydag unrhyw un sydd â diddordeb!
Partneriaid ar y brosiect: Llyfrgelloedd Sir Fynwy, Llyfrgelloedd Bro Morgannwg, Llyfrgelloedd Powys, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Llyfrgelloedd Torfaen, Graffeg, Adverse Camber
Gyda diolch i: Cyngor Celfyddydau Cymru