Rhyfeddod y Go Iawn

Rydym yn gwahodd artistiaid i gyflwyno gwaith i gynnwys yn ein Harddangosfa Galwad Agored 2025 yn Oriel Canfas sy’n archwilio’r thema 'Rhyfeddod y Go Iawn', sy’n disgrifio’r gwefr ryfedd sy’n dod i amlwg pan fydd realiti yn datgelu ei ryfeddod.

Rydym yn chwilio am waith mewn unrhyw gyfrwng, (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i baentio, sain, ffilm, cerflunwaith, gosodiad a pherfformiad) sy'n ymateb mewn rhyw ffordd i'r syniadau hyn.

Mae'r cyfle hwn ar agor i unrhyw artist sy'n byw yn y DU ar unrhyw gam o'u gyrfa.

Dyddiadau:

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 31 Hydref 2025

Arddangosfa: Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025 (Agoriad 6-8pm) tan 

Dydd Sul 14 Rhagfyr 2025

Ffi mynediad: £5 y gwaith