Dyddiau Cau: Dydd gwener 24 Tachwedd, 5yp

Gŵyl gelf fyw dros bedwar diwrnod yw Experimentica, a gynhelir gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ac sy’n annog risg, cydweithio a chyfnewid – yr unig ŵyl o’r fath yng Nghymru. Mae hi wedi bod yn rhedeg ers dros ugain mlynedd, ac mae’r ŵyl ddwyflynyddol yma’n cynnig cyfle hanfodol i arferion celf fyw arbrofol a radical ffynnu.

Gan nodi troad y tymhorau tuag at fywyd newydd, bydd Experimentica 2024: Galwad i’r Gwanwyn yn dod ag artistiaid a chymunedau ynghyd i ddathlu gwaddol yr ŵyl a’r ecolegau sy’n cynnal perfformiad o fewn a thu hwnt i’n hardal leol. Wrth i’r gwanwyn ddeffro wedi Alban Eilir, fe ddown ynghyd i ddychmygu dyfodol cyfunol, gan groesawu’r anhrefn a’r digymhellrwydd sy’n rhoi lle i newydd-deb ddod i’r amlwg. Rydyn ni’n croesawu trawsnewidiad fel grym hanfodol i’r cynulliad yma. Bydd Galwad i’r Gwanwyn yn hau’r hadau ar gyfer ecolegau perfformio’r dyfodol yn ystod y cyfnod yma o fywiogrwydd cynyddol – o bartneriaethau cydweithredol, rhwydweithiau a phreswyliadau i nosweithiau gwaith ar waith, partïon a chylchoedd awduron. 

Bydd Galwad i’r Gwanwyn yn amser ar gyfer ansefydlogi, i hel ac i hau; i ffurfiau a chysylltiadau newydd ddatod o’r tywyllwch.

 

Mae’r alwad agored yma’n croesawu cynigion gan artistiaid o wledydd Prydain ac Iwerddon sy’n ymwneud â themâu’r gwanwyn – boed hynny’n ddadfeiliad, yn drawsnewidiad, ymddangosiad o’r newydd, digymhellrwydd, defod, neu’r weithred o ymgynnull.

Nod yr ysgogiadau yma yw annog meddwl dychmygus, ac ni ddylent beri rhwystr i chi os nad yw eich arfer yn cyd-fynd â nhw’n union.   

Gallwch gynnig gwaith newydd, gwaith ar y gweill, neu waith sydd eisoes yn bodoli. Os cewch eich dewis, byddwch yn cael cynnig ffi rhwng £250 - £2000 a fydd yn cael ei phennu mewn sgwrs gyda thîm yr ŵyl, yn dibynnu ar raddfa a chwmpas y gwaith. 

Mae ein diffiniad o gelf fyw/perfformio yn eang, ac mae’n cynnwys unrhyw gysylltiad sy’n perfformio gweithred neu sy’n gwahodd cyfnewid. Gallai hyn fod yn berfformiad sy’n cynnwys symud, sain, lleferydd, dawns, cerddoriaeth, goleuo, gwrthrychau, a delweddau, yn ogystal â gweithredoedd perfformiadol fel offrymau post, ymyriadau digidol, teithiau tywys, defodau preifat a chyhoeddus, a gweithredoedd o orffwys a maeth.  

Rydyn ni’n chwilio am gynigion sy’n feiddgar ac yn chwareus, sy’n ymgysylltu’n ddychmygus â’n hadeilad, ein hardal leol a’n cymunedau, ac sy’n herio’r syniad o’r hyn all celf fyw/perfformio fod. Beth mae bod gyda chynulleidfa yn ei olygu? Sut gall y cyfarfyddiad neu’r cynulliad fod yn lle i feddwl yn feirniadol ac ar y cyd?  

Dyddiad cau: 24/11/2023