Am y rôl

Mae Theatr Clwyd yn chwilio am gyfarwyddwr ar ddechrau eu gyrfa sy'n llawn cyffro am hud y Panto. Mae ein pantomeim roc a rôl blynyddol yn uchafbwynt i ni a’n cynulleidfaoedd, ond bydd y panto eleni’n un hynod arbennig oherwydd dyma’r cyntaf y byddwn yn ei gyflwyno yn ein theatr newydd yn dilyn prosiect ailddatblygu cyfalaf helaeth.

Mae rôl y cyfarwyddwr cynorthwyol yn aelod allweddol o’r tîm creadigol, gan gefnogi’r Cyfarwyddwr (Daniel Lloyd) yn yr ystafell. Mae’r profiad ymarferol hwn yn llawn amser o ddiwrnod cyntaf yr ymarferion tan berfformiad y wasg, felly byddwch yn cael profi’r broses gyfan o greu theatr ar gynhyrchiad ar raddfa.

Sylwch fod hon yn swydd lawrydd, am dymor penodol, ac mae'n agored i bobl sydd wedi'u geni, eu magu, neu sy'n byw yng Nghymru.

Mae’r dyletswyddau yn cynnwys:

  • Gweithio yn yr ystafell ymarfer a chymryd nodiadau yn ystod y broses ymarfer
  • Cynorthwyo'r tîm rheoli llwyfan a'r cyfarwyddwr gyda'r amserlennu ar draws y broses
  • Cynorthwyo gyda golygu’r sgript
  • Creu a diweddaru traciau offerynnol yr actorion
  • Dyletswyddau eraill fel sy'n cael eu neilltuo

Am Mother Goose

Mae pantomeim roc a rôl blynyddol Theatr Clwyd yn gonglfaen i’n tymor ni o waith. Mae ein cynhyrchiad Nadoligaidd blynyddol yn cael ei weld gan fwy na 33,000 o bobl bob blwyddyn. Mae Mother Goose wedi cael ei ysgrifennu gan Christian Patterson ac mae’n cynnwys cwmni o 10 o actor-gerddorion a hefyd caneuon poblogaidd yr 80au, y 90au a heddiw. Y tîm creadigol llawn a’r cast i'w cyhoeddi. Dyma’r pantomeim cyntaf yn ein hadeilad fydd wedi cael ei ailddatblygu.

Dyddiadau pwysig

Ymarferion yn dechrau: Dydd Llun 21 Hydref 2024 yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru

Tech: w/d 18 Tachwedd 2024

Sioe Ragolwg Gyntaf: Sad 23 Tachwedd 2024

Noson i Westeion: Iau 28 Tachwedd 2024

Sioe Olaf: Sul 19 Ionawr 2025

Dyddiad cau: 02/08/2024