Crynodeb:
Mae galwad agored ar gyfer hwyluswyr artistig profiadol i arwain gweithdai addysgiadol celfyddydau mewn cefnogaeth â'n prosiect, Lle i Dyfu a Chreu, a ariennir trwy'r Arloesedd Tlodi Plant a'r grant Cefnogi Cymunedau gan Lywodraeth Cymru, 2025-2026.
Cynnwys:
Mae'r Tîm Celfyddydau a Threftadaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn edrych i gomisiynu 3-4 hwyluswyr artist i arwain gweithgareddau iechyd a chelf i Blant a Phobl Ifanc yn yr ardal Abertawe. Rydym yn dymuno o gomisiynu artistiaid gyda chefndir cryf o ddarparu rhaglenni arloesol sy'n cyfuno'r celfyddydau creadigol, natur, a bwyd a gweithgareddau tyfu i ymgysylltu, ysbrydoli a chefnogi plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed a dan anfantais. Ein nod yw gwella mynediad at weithgareddau rhagnodi manteisiol a phleserus, cefnogi dysgu sgiliau newydd a chyflwyno safbwyntiau gwahanol.
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus rhedeg tua 12 gweithdy wythnosol yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot o fis Medi 2025 i Wanwyn 2026, ac yn cynnwys digwyddiad rhannu ychwanegol.
Darparwch y canlynol:
- amlinelliad byr o'r cynnig o'ch gwaith y byddwch yn eu darparu
- syniad o beth fydd y cyfranogwyr ifanc yn elwa o'ch gweithdai
- enghreifftiau o unrhyw brofiad gwaith blaenorol perthnasol
- cadarnhad o statws DBS
- Cyllid - cost y dydd gan gynnwys deunyddiau
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar brofiad amlwg o weithio o fewn lleoliadau celfyddydau ac iechyd, a gyda phobl ifanc sy'n agored i niwed, a gallu teithio i ardaloedd gan gynnwys Rhydaman, Treforys a Baglan yn ardal Abertawe. Mae BIP Bae Abertawe wedi ymrwymo i Gydraddoleb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar draws ein gwasanaethau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar y prosiect cyffrous hwn, danfonwch curriculum vitae bywgraffiadol byr ynghyd ag e-bost eglurhaol byr yn nodi eich cyfrwng/au creadigol dewisol i:
Johan B. Skre, Rheolwr Gwasanaeth Celf mewn Iechyd johan.skre@wales.nhs.uk
Melanie Wotton, Rheolwr Prosiect Celfyddydau mewn Iechyd melanie.wotton2@wales.nhs.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19/09/2025