Wrth i bynciau’r celfyddydau wynebu pwysau cynyddol, mae Gadewch i ni Greu Celf 2023 yn hyrwyddo gweithgaredd arloesol, bywiog a difyr ar draws y DU dan arweiniad ymarferwyr sy’n ymrwymo i chwalu rhwystrau at gyfranogiad a chreu cyfleoedd i bobl ifanc ddod o hyd i’w llwybrau creadigol eu hunain. Yn ei ail flwyddyn, bydd ymgyrch Gadewch i ni Greu Celf yn taflu goleuni ar rôl arferion dysgu a chyfranogi wrth gefnogi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid, gweithwyr diwylliannol a meddylwyr creadigol.
Mae’r ymgyrch yn gwahodd sefydliadau ac unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y celfyddydau gweledol rhwng 17 Tachwedd a 29 Chwefror 2024. Gallwch drefnu gweithgaredd neu ddod yn bartner yn yr ymgyrch (neu’r ddau!).
Nodwch fod gennym nifer cyfyngedig o fwrsariaethau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau, a bydd angen eu rhestru erbyn 11 Rhagfyr 2023 i fod yn gymwys, ond gallwch gofrestru eich gweithgaredd erbyn 28 Chwefror 2024.
I gael rhagor o fanylion ewch i’r wefan, neu ebostiwch marketing@engage.org