DYDD IAU 25 EBRILL A DYDD GWENER 26 EBRILL 2024

Bydd y drydedd Fforwm Symudedd Diwylliannol yn cael ei threfnu gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, un o aelodau On the Move, yng Nghaernarfon ac yn cael ei ffrydio’n fyw gan HowlRound.

Mae’r Fforwm yn cael ei chyd-ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o raglen aml-flwyddyn On the Move.

Mae’r Fforwm yn cael nawdd pellach gan y British Council i groesawu cynrychiolwyr o blith gweithwyr diwylliannol proffesiynol Wcráin.

 

Pam Fforwm Symudedd Diwylliannol?

Fel rhan o’i raglen aml-flwyddyn sy’n cael ei chyd-ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, bob blwyddyn bydd On the Move yn trefnu Fforwm Symudedd Diwylliannol er mwyn edrych ar y cyd ar y tueddiadau rhyngwladol mewn symudedd artistig a diwylliannol. A hwnnw’n blatfform gwybodaeth unigryw, mae’r rhwydwaith yn gweithio gyda’i aelodau a phartneriaid i drefnu trafodaethau panel thematig ac i roi cyd-destun i faterion sy’n ymwneud â symudedd byd-eang a materion sy’n cael sylw ym Mlwyddlyfr Symudedd Diwylliannol blynyddol On the Move.

 

Ffocws 2024: Symudedd diwylliannol y tu hwnt i ryngwladoli

Nod Fforwm Symudedd Diwylliannol 2024 yw dychmygu gorwelion newydd ar gyfer rhaglenni datblygu proffesiynol sydd â dimensiwn rhyngwladol.

Wrth sôn am ‘raglenni datblygu proffesiynol’, rydyn ni’n golygu amryw o weithgareddau fel cyrsiau hyfforddiant i unigolion neu grwpiau, dosbarthiadau meistr, sesiynau hyfforddi a mentora, neu gyfleoedd i ddilyn prentisiaethau creadigol. Bydd y rheini’n galluogi artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol i wella’u hymarfer a buddsoddi mewn sgiliau a fydd yn eu helpu i greu llwybr proffesiynol cynaliadwy iddyn nhw’u hunain.

Mae’r Fforwm Symudedd Diwylliannol yn gysylltiedig â gwaith dadansoddi data a’r erthyglau a geir ym Mlwyddlyfr Symudedd Diwylliannol 2024.

 

 

Y rhaglen

Amseroedd Prydain yw’r holl amseroedd a ddangosir. Ewch i weld eich parth amser cyfatebol chi gan ddefnyddio’r troswr parthau amser hwn.

Y lleoliad dros y ddau ddiwrnod:  Theatr, Galeri Caernarfon, Doc Fictoria, Caernarfon / Ar-lein

 

DYDD IAU 25 EBRILL 2024

14:30–18:00

Fforwm Symudedd Diwylliannol (rhan I)

14:30–15:00

Gair o groeso a chyflwyniad

Gyda Maggie Russell, Cadeirydd | Cyngor Celfyddydau Cymru (Y Deyrnas Unedig)

15:00–16:15

Trafodaeth banel: ‘Datblygu proffesiynol rhyngwladol: mannau gadael, mannau cyrraedd’

Llywydd:

Milica Ilić, ymgynghorydd rhyngwladol | llawrydd (Gwlad Belg)

Panelwyr:

Ouafa Belgacem, Prif Weithredwr | Culture Funding Watch (Tunisia)

Tamar Janashia, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr | Culture and Management Lab (Georgia)

16:45–18:00

Trafodaeth banel: ‘Rhoi gwerth ar gydweithio diwylliannol rhyngwladol’

Llywydd:

Anna Galas-Kosil, Rheolwr Prosiectau Artistig ac Ymchwil a Churadur | Arsyllfa Diwylliant Warsaw (Gwlad Pwyl)

Panelwyr:

Laura Ganza, Rheolwr Rhaglenni | Africalia (Gwlad Belg)

Sarah Philp, Dirprwy Gyfarwyddwr | Delfina Foundation (Prydain Fawr)

18:00–18:15

Pethau difyr o’r diwrnod

Adroddwr:  Yohann Floch, Cyfarwyddwr Gweithrediadau | On the Move

 

DYDD GWENER 26 EBRILL 2024

9:30–9:45

Gair o groeso a chyflwyniad

9:45–11:00

Trafodaeth banel: ‘Rhyngwladoli o’r cyrion’

Llywydd:

Katelijn Verstraete, Ymgynghorydd Diwylliannol | ReflAction Works (Singapore)

Panelwyr:

Marwane Fachane, Rheolwr-Gyfarwyddwr | Hiba Foundation (Morocco)

Kim-Marie Spence, Darlithydd, Rheoli Celfyddydol a Pholisi Diwylliannol | Prifysgol Queen’s Belfast (Y Deyrnas Unedig)

11:30–12:45

Trafodaeth banel: ‘Cydweithio yn rhyngwladol yn y dyfodol: sgiliau’r dyfodol a safonau’r dyfodol’

Llywyddion:

Giuliana Ciancio a Carlotta Garlanda, Rheolwyr Prosiect | Liv.in.g (Yr Eidal)

Panelwyr:

Nike Jonah, Cyfarwyddwr Gweithredol | Pan-African Creative Exchange (Prydain Fawr-De Affrica)

Vânia Rodrigues, Prif Ymchwilydd | GREENARTS ac Athro Cynorthwyol Gwadd | Cyfadran y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Coimbra (Portiwgal)

12:45–13:00

Pethau difyr a safbwyntiau o’r diwrnod

Adroddwr:  Yohann Floch, Cyfarwyddwr Gweithrediadau | On the Move

 

Y rhaglen lawn a chofrestru

 

Rhagor o wybodaeth a fideos o Fforwm Symudedd Diwylliannol 2022 yn Helsinki (symudedd diwylliannol digidol) a Fforwm Symudedd Diwylliannol 2023 yn Tunis (cynaliadwyedd amgylcheddol a symudedd diwylliannol)