Bydd ein trydedd Ffair Grefft Cyfoes Dros-Dro Gogledd Cymru yn cael ei chynnal ym Mostyn ar Ddydd Sadwrn 12fed o Gorffennaf 2025.

Ar agor 10.30yb - 4.30yp a gyda mynediad am ddim i ymwelwyr, mae’n gyfle gwych i brynu celf hardd a fforddiadwy yn uniongyrchol gan yr artistiaid.

Bydd gennym 13 o stondinau gydag amrywiaeth o artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr o Gymru a gweddill y DU.

Bydd gennym hefyd weithdai galw heibio am ddim i bob oed. Bydd ein Siop ar agor fel arfer, a bydd ein caffi hefyd ar agor drwy’r dydd ar gyfer coffi wedi’i rostio’n lleol, cacennau blasus a phrydau ysgafn.

Stondinwyr:
Bryn Teg Ceramics / Ceramics by Nicola / Claire Tuxworth Art / Debbie Nairn / Eleri Griffiths Photographer / Gareth Williams Printmaker / HER Ceramics / Jenny Murray / Lost in the Wood / Mockup Goods Co. / Michelle Davison Fine Art / Mushypeadesign / Suzanne Claire Jewellery