Ymunwch â ni ar gyfer y Ffair Brintiau Gogledd Cymru yn Oriel Mostyn yn Llandudno ddydd Sadwrn y 7fed o Fehefin 2025, 10.30yb - 4.30yp.
Gyda mynediad am ddim i ymwelwyr, mae’n gyfle gwych i brynu printiau hardd a fforddiadwy yn uniongyrchol gan y 30 o artistiaid sy’n cymryd rhan.
Bydd aelodau o’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn arddangos eu technegau argraffu drwy gydol y dydd, ac mae ein gweithdy argraffu am ddim yn lle gwych i argraffu eich gwaith celf eich hun!
Bydd ein Siop ar agor fel arfer, a bydd ein caffi hefyd ar agor drwy’r dydd ar gyfer coffi wedi’i rostio’n lleol, cacennau blasus a phrydau ysgafn. Mae hyn i gyd yn neud ein Ffair Brintiau yn lle perffaith i brynu print cyfoes fforddiadwy, cael coffi a chael hwyl!
Stondinwyr:
Art and Danniella / CarlJones_Doodles / Creative Lab. / dotsallowed / Elly Strigner Illustration / Emma Grover / Estella Scholes / Fonted / Francis Allwood / Jessie Evans / Julia Midgley / Lisa Carter Grist / Lisa Takahashi - Artist / Louise Boulton / Natalie Laura Ellen / Or8 Design / Pat Mowll Art / Philip Dare / Rach Red Designs / Ruth Green Design / Ruth Thomas / Tara Dean / The Moonlit Press / Zoenso
Chyflwyniadau brint gan Canolfan Argraffu Ranbarthol / Freshmattic / Karen Gittens / Nigel Morris