Mae National Theatre Wales yn cael ei ysgogi gan anelu at gysylltiad. Rydyn ni'n gweld theatr fel arf i ddod â phobl ynghyd i fyfyrio, archwilio a chael ein hysbrydoli gan straeon ein cenedl. Rydyn ni am i bawb yng Nghymru weld eu hunain, eu cymunedau, eu profiadau a'u dyfodol yn cael eu dychmygu yn y gwaith yr ydyn ni'n ei wneud.
Rydyn ni'n chwilio am ddylunydd graffeg i weithio ar ein sioe nesaf, Feral Monster.
Am bwy yr ydyn ni'n chwilio?
Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn dylunwyr graffeg sydd:
- â dealltwriaeth o hunaniaethau LHDTQIA+* naill ai drwy brofiad byw neu gyfeillach ac efallai wedi wynebu rhwystrau i yrfa broffesiynol yn y sector creadigol o'r blaen am y rheswm hwn.
- â chysylltiad â Chymru a hunaniaethau Cymreig a dealltwriaeth ohonynt
- ar gael o ganol Tachwedd i ganol Rhagfyr (gweler yr amserlen gyflwyno isod)
- â phrofiad amlwg o greu’r rhan fwyaf/pob un o’r asedau dylunio a amlinellir isod.
Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n defnyddio dull cynhwysol at ddylunio, gan flaenoriaethu hygyrchedd, dwyieithrwydd, gwrth-homoffobia a gwrth-hiliaeth. Byddi di'n gyfathrebwr a chydweithredwr rhagorol, ac yn gallu creu dyluniadau sy’n atseinio gyda chynulleidfa eang ledled Cymru ac ar draws pob cenhedlaeth.
*Mae'r acronym hwn yn golygu lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwiar, cwestiynu, rhyngrywiol neu anrhywiol, ond gall pobl hefyd ddiffinio eu rhyw a'u rhywioldeb mewn ffyrdd eraill. Mae'r tîm creadigol ar gyfer Feral Monster i gyd yn uniaethu fel LHDTQIA+ a dyna pam rydyn ni'n chwilio am rywun sydd â'r profiad byw hwn neu gyfeillach.