Mae elusen o Gymru sy'n cyflwyno’r llawenydd a ddaw trwy ganu i bobl sy’n byw â dementia a’r sawl sy’n eu cefnogi yn apelio am bleidleisiau er mwyn cael eu coroni yn Brosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn.  

Llwyddodd yr elusen Gymreig, Forget-me-not Chorus, i drechu cystadleuaeth lem oddi wrth fwy na 1300 o sefydliadau i gyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sydd yn dathlu’r bobl a phrosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel gyda help arian y Loteri Genedlaethol.

Mae 17 o brosiectau ar y rhestr fer derfynol o bob cwr o’r DU, a bydd y cyfan ohonynt yn cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus am bedair wythnos i gael eu henwi yn Brosiect Loteri Genedlaethol y Flwyddyn. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £5,000 ar gyfer eu prosiect a thlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.

Ers 2011, mae’r elusen a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, ac a ddechreuwyd yng Nghaerdydd, wedi cynnal sesiynau canu wythnosol i bobl â dementia ac wedi ehangu argaeledd ei wasanaethau ers hynny i Gymru gyfan a gweddill y DU. Trwy bump o gorau cymunedol, ugain o gorau ‘Canu Cryf – Singing Strong’ mewn cartrefi gofal, llyfrgell o sesiynau canu am ddim sydd wedi’u recordio o flaen llaw a gwasanaeth ysbyty – mae’r tîm o gerddorion proffesiynol arbennig o fedrus yn cyrraedd dros 1000 o bobl yr wythnos.   

Mae’r rheini sy’n elwa yn cynnwys pobl o bob oedran, ynghyd â’u teuluoedd, ffrindiau a staff proffesiynol sy’n gofalu amdanynt. 

Mae’r elusen a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn defnyddio cerddoriaeth fel offeryn ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu ystyrlon, gan gyflwyno llawenydd a chwerthin a chynnig seibiant o’r drefn arferol ddidostur a natur ynysig dementia. Trwy brosiectau artistig pwrpasol, mae’r elusen yn creu gweithiau gwreiddiol i’w rhannu gyda’r gymuned ehangach, sy’n meithrin synnwyr o werth a chyflawniad.  

Dywedodd Kate Woolveridge, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig Forget-me-not Chorus, a oedd wrth ei bodd gyda’r enwebiad ar gyfer y rownd derfynol: “Rydym wrth ein boddau i fod yn y rownd derfynol yng nghategori Prosiect y Flwyddyn Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2022.

Mae Forget-me-not Chorus yn golygu dod â phobl ynghyd i greu cymuned canu sy’n dathlu’r presennol, yr yma a nawr, i greu atgofion newydd. Rydym yn credu’n angerddol yng ngrym a llawenydd canu i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae taith dementia pawb yn unigryw, ond rydym yn unedig fel yr ydym yn canu gyda’n gilydd.

Mae aelodau ein corau yn dweud wrthym ein bod yn ‘noddfa i’r enaid’, felly ewch ati i bleidleisio os gwelwch yn dda a’n helpu ni i ddod yn Brosiect y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni.”

Dywedodd Jonathan Tuchner, o’r Loteri Genedlaethol: “Rydym mor falch o fod wedi derbyn cymaint o enwebiadau sy’n amlygu’r gwaith rhagorol mae prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn ei wneud ym mhob cwr o’r DU. Nid yw’n gyfrinach mai amseroedd heriol yw’r rhain, felly mae’n wych gweld cymaint o bobl a phrosiectau yn ymrwymo eu hamser ac egni i roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau.

"Mae’r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn pob wythnos ar gyfer achosion da, fod prosiectau gwych fel y rhain yn bosibl.

“Mae Forget-me-not Chorus yn gwneud gwaith anhygoel led led Cymru, ac maen nhw’n llwyr haeddu bod yn y rownd derfynol ar gyfer Prosiect y Flwyddyn Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2002. Gyda’ch cefnogaeth chi, fe allent fod yn enillydd.”

I bleidleisio ar gyfer Forget-me-not Chorus, edrychwch ar lotterygoodcauses.org.uk/awards.  Neu yn syml iawn, ewch ati i ddefnyddio’r hashnod Trydar #NLAForgetMeNot.  Cynhelir y cyfnod pleidleisio o 9am ar 7 Medi tan 5pm ar 7 Hydref.       

Diwedd