Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio dyfynbrisiau ar gyfer dylunio, rheoli a darparu digwyddiad perfformio cerddoriaeth gymunedol gyhoeddus yng nghanol tref Hwlffordd ym Medi 2024 a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Bydd y digwyddiad yn ddiweddglo i brosiect cymunedol sydd eisoes ar y gweill. Bydd yn cynnwys cerddorion proffesiynol, cerddorion cymunedol a chorau lleol yn perfformio cantata newydd gan y cyfansoddwr Alex McGee o'r enw The Children of St Saviours. Mae cantata yn ddarn o gerddoriaeth naratif ar gyfer llais ac offerynnau a bydd yn adrodd hanes cyfoethog Hwlffordd, yn enwedig yn ymwneud â chanfyddiadau o gloddio archaeolegol diweddar yng Nghei'r Gorllewin. Bydd y digwyddiad yn annog y gymuned leol i ymgysylltu â’i hanes a thirwedd esblygol canol y dref mewn ffyrdd newydd, archwiliadol a chreadigol a bydd yn apelio at drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal 14 Medi 2024 (i'w gadarnhau). Rhagwelir y bydd yn denu rhwng 500 a 1,000 o bobl.
Disgwylir i’r digwyddiad wneud y canlynol:
- Dathlu a chydnabod treftadaeth a diwylliant cyfoethog Hwlffordd
- Cynyddu balchder mewn lle ymhlith cymunedau ac ymwelwyr â Hwlffordd
- Cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref
- Cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref
- Gwella canfyddiad pobl o ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yng nghanol y dref
Disgwylir i’r cyflenwr llwyddiannus reoli proses y digwyddiad o’r dechrau i’r diwedd, gan ddechrau gyda'r gwaith o gefnogi tîm y prosiect i ddatblygu’r weledigaeth greadigol ar gyfer y digwyddiad, gweithio’n agos gydag is-gontractwyr i gyflwyno cynnwys creadigol gyda phlant ysgol gynradd, cydlynu côr plant, cyd-drafod ag adrannau perthnasol Cyngor Sir Penfro i sicrhau trwyddedau a chaniatâd, sicrhau lleoliadau a llwyfannau, gwaith marchnata, rheoli’r holl logisteg a mesurau iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad, a thrin logisteg a gwaith tacluso ar ôl y digwyddiad.
Gwahoddir dyfynbrisiau o tua £22,000. Bydd dyfynbrisiau dros £24,999 yn cael eu gwrthod.
Y dyddiad cau ar gyfer dyfynbrisiau yw dydd Mawrth, 19 Mawrth, am 5 pm.
Cysylltwch â Ruth Jones ruth.jones@pembrokeshire.gov.uk am y briff llawn.