Ar ôl y chwiban olaf yng ngêm Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd nos Sadwrn yma, ennill neu golli, bydd Cymru’n cyflwyno’i synau a’i straeon ar un o lwyfannau’r Swistir i nodi’r foment hanesyddol a balch hon pan gyrhaeddodd tîm y menywod bencampwriaeth UEFA EWRO Menywod 2025.
Ar ôl y gêm, bydd gìg rhad ac am ddim yn cael ei gynnal yn Konzerthaus Schüür, Lucerne, a hwnnw’n cyfuno doniau amrywiol a llachar o Gymru a’r Swistir. Ymhlith y perfformwyr gwych bydd Adwaith, Aleighcia Scott a DJ Molly Palmer o Gymru, ynghyd â’r artistiaid o’r Swistir, Giulia Dabala a DJ Nat Shizaru.
Merched yn Gwneud Miwsig sy’n cyflwyno’r gìg, ar y cyd â Chlwb Ifor Bach a Maes B, Tourbo Music a Helvetia Rockt yn y Swistir. Ond mae’n fwy na gìg hefyd – mae’n gyfle i chwaraeon, cerddoriaeth a diwylliant ddod ynghyd gerbron cynulleidfaoedd yn y Swistir a ledled Ewrop.
Yn amlwg ymhlith y perfformwyr mae Adwaith, y band ôl-bync dwyieithog, hynod boblogaidd o Gaerfyrddin. Yn ogystal ag ennill dwy o Wobrau Cerddoriaeth Cymru a pherfformio yn Glastonbury ac SXSW, nhw berfformiodd anthem swyddogol BBC Radio Cymru ar gyfer ymgyrch EWRO Menywod 2025, ‘Aros am y Chwiban’. Band yw Adwaith sy’n chwifio’r faner dros gerddoriaeth gyffrous o Gymru wrth i honno groesi ffiniau.
Gan edrych ymlaen at y gìg, meddai Adwaith:
“Mae cynrychioli Cymru yn y Swistir yn ystod Ewros y menywod eleni yn anrhydedd mawr iawn. Mae’n fraint cael bod yn rhan o foment hanesyddol, pa mor fychan bynnag y bydd ein cyfraniad ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu ein hiaith, ein diwylliant a’n gwlad gyda chynulleidfaoedd o bob cwr o Ewrop yn Lucerne.”
Hefyd yn cynrychioli Cymru ar y noson bydd Aleighcia Scott – un o leisiau mwyaf cyffrous Cymru sy’n serennu yn y byd reggae cyfoes. Yn gynharach eleni, fe dorrodd hi dir newydd – hi oedd yr artist cyntaf i gyrraedd brig Siart Reggae iTunes gyda thrac Cymraeg. Perfformiodd hi hefyd ar anthem swyddogol Ewro 2025 yr Urdd, ‘Ymlaen’. A hithau’n wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y teledu a’r radio, mae Aleighcia yn cyflwyno ar BBC Radio Wales ac ar raglenni Cymraeg, gan ddod â cherddoriaeth, diwylliant a balchder i gynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r wlad.
Meddai Aleighcia Scott:
“Mae cael bod yn rhan o’r foment hon i Gymru, a dangos i gynulleidfa fyd-eang pwy ydyn ni fel cenedl, yn gwbl werth chweil. Pan fydd Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, rydyn ni’n mynd â’r wlad gyfan gyda ni – y gerddoriaeth, y diwylliant, y bobl. Rwy’ hefyd yn falch o gael gwahoddiad i rannu’r llwyfan gydag artistiaid benywaidd o’r Swistir, ac mae’n wych cael gweithio gydag asiantaethau sy’n helpu menywod i greu cerddoriaeth yng Nghymru ac yn y Swistir.”
Yn cwblhau’r rhestr o berfformwyr o Gymru mae DJ Molly Palmer. A hithau’n un o DJs prysuraf ein gwlad, mae hi’n enwog am ei setiau dwyieithog sy’n pontio genres. Mae ganddi enw hefyd am ei pherfformiadau byw trydanol. O’r Cymoedd y daw’n wreiddiol, ac mae’n cyflwyno ar BBC Radio Wales ac ar S4C, lle mae’n hoff o ddod o hyd i ddoniau newydd a hyrwyddo cerddoriaeth, ieithoedd a diwylliant Cymru, a hynny gartref a thramor.
Meddai Molly Palmer:
“Mae hon yn foment mor arwyddocaol, nid yn unig i bêl-droed, ond hefyd wrth ddangos y berthynas sydd rhwng cerddoriaeth, hunaniaeth a diwylliant, yn ogystal ag wrth ddarganfod cerddoriaeth menywod o’r Swistir. A finnau’n DJ ac yn gyflwynydd dwyieithog, mae dod o hyd i ddoniau o Gymru’n bwysig iawn i mi, yn enwedig y menywod hynny sy’n dylanwadu ar y tirlun diwylliannol yn eu ffyrdd eu hunain. Mae mynd â’r ysbryd hwnnw i Lucerne yn teimlo’n beth pwerus, ac rwy’n falch o fod yn rhan o’r cyfan.”
Cynllun arloesol yw Merched yn Gwneud Miwsig sy’n cael ei arwain gan Clwb Ifor Bach a Maes B. Cafodd ei greu i hyrwyddo menywod ac artistiaid anneuaidd yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Ers dechrau fel cyfres o weithdai bach yn 2018, mae wedi tyfu’n un o brif raglenni datblygu cerddoriaeth Cymru.
Meddai Elan Evans, Rheolwr Prosiect Merched yn Gwneud Miwsig:
“Cafodd Merched yn Gwneud Miwsig ei sefydlu i greu gofodau diogel, grymusol i fenywod, artistiaid anneuaidd a phobl ifanc yng Nghymru, gyda’r nod o’u helpu nhw i feithrin hyder a ffynnu ar y llwyfan, yn y stiwdio, a’r tu ôl i’r llenni. Mae yna fwy na cherddoriaeth i’r foment hon yn y Swistir; mae’n golygu sefyll ysgwydd yn ysgwydd â’r menywod sy’n creu hanes ar y cae ac oddi arno yng Nghymru a ledled Ewrop. Tra bod y menywod yn y tîm pêl-droed yn dangos beth sy’n bosibl yn y byd chwaraeon, rydyn ninnau’n gwneud yr un peth drwy gerddoriaeth – yn rhannu llwyfan sy’n adlewyrchu’r egni, y doniau a’r uchelgais sy’n creu’r sîn yng Nghymru a’r Swistir heddiw.”
Meddai Caroline Edwards o Tourbo Music:
“Rydyn ni wrth ein boddau’n cael cydweithio â Merched yn Gwneud Miwsig a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar y digwyddiad arbennig hwn yn Lucerne. Mae’n gyfle gwych i ddod ag artistiaid o’r Swistir a Chymru ynghyd – gan rannu llwyfannau a seiniau, a meithrin perthynas. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn sbardun i gyfnewid creadigol hirhoedlog rhwng ein gwledydd, a hynny’n ysbrydoli cynulleidfaoedd ifanc, a merched yn enwedig, i ddychmygu’u hunain yn rhan o’r byd cerddoriaeth.”
Mae’r cydweithio rhwng Merched yn Gwneud Miwsig a Helvetia Rockt hefyd yn rhan o raglen ddiwylliannol swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer y bencampwriaeth. Rhaglen yw hon sy’n cael ei darparu drwy Tîm Cymru ac sy’n cael ei chefnogi gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae Tîm Cymru yn dod â sefydliadau ac unigolion ledled Cymru ynghyd i adrodd ein stori i’r byd. Fe’i crëwyd yn wreiddiol cyn Cwpan y Byd FIFA yn 2022, ac mae’n ffordd unigryw o gydweithio sy’n dathlu creadigrwydd a gwerthoedd y wlad – o chwaraeon a cherddoriaeth i gymunedau, diwylliant a busnes – a’r cyfan o dan frand Cymru Wales.
Ychwanegodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:
“Fel yn y byd pêl-droed, sy’n ddiwydiant lle mae dynion yn dra amlwg, digwyddiad ydy hwn sy’n dangos sut mae modd grymuso merched ar y cae ac oddi arno. Rydyn ni’n falch o gefnogi’r cydweithio rhwng Merched yn Gwneud Miwsig yng Nghymru a sefydliadau yn y Swistir. Mae’n gyfle hefyd i gynulleidfaoedd newydd ddarganfod cerddoriaeth o Gymru a’r Swistir. ”
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 Llywodraeth Cymru.