Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig 4 bwrsariaeth i dalu cost lawn Diwrnod Marchnata Digidol 2025 — gyda 2 ohonynt ar gyfer sefydliadau bach /gweithwyr llawrydd yn unig.
Fel rhan o’r cynnig bwrsariaeth, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn talu hyd at £200 tuag at ffioedd llety a theithio.
Derbyniwn geisiadau gan aelodau o AMA a rhai nad ydynt yn aelodau sy’n gweithio i sefydliadau diwylliannol.
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni’r meini prawf canlynol:
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr unigol fod yn gweithio fel gweithiwr celfyddydol llawrydd yng Nghymru neu mewn sefydliad celfyddydol sydd yng Nghymru
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein erbyn Dydd Llun 6 Hydref 2025 am 12.00pm.