Llawrydd, tymor penodol - 11 wythnos + diwrnodau paratoi/dychwelyd

Ynglŷn â NTW

Mae National Theatre Wales yn gwmni theatr crwydrol sy’n bodoli i ddarganfod ac adrodd straeon mwyaf pwerus Cymru a’i phobl. Drych a microsgop i bob un ohonon ni.   

Dydyn ni ddim wedi ein clymu i un man penodol, sy'n rhoi'r rhyddid i ni wneud popeth a wnawn yn greadigol, gan gysylltu pobl, lleoedd a syniadau sy'n dod â straeon yn fyw.  

Cawson ni ein sefydlu yn 2009 fel cwmni theatr Saesneg Cymru, a’n gwaith ni yw creu cymuned genedlaethol o wneuthurwyr a chynulleidfaoedd theatr, sy’n croesawu pobl o bob cefndir. Mae TEAM, ein dull o weithio gyda chymunedau, yn allweddol i hyn. Mae’n agor cyfleoedd creadigol i bobl nad ydyn nhw efallai erioed wedi meddwl am theatr fel rhywbeth iddyn nhw.  

Mae popeth yn dechrau gyda sgwrs yma yn NTW ac rydym bob amser yn dymuno clywed gan unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan.

YNGLŶN Â'R PROSIECT

Feral Monster - yn teithio yng Nghymru yn ystod gwanwyn 2024.

Sioe gerdd newydd gan Bethan Marlow yw Feral Monster, wedi'i chyfarwyddo gan Izzy Rabey, gyda cherddoriaeth gan Nicola T. Chang.  Bydd yn teithio ar draws theatrau Cymru yn ystod gwanwyn 2024, gyda lleisiau anhygoel yn uno grime, R&B, pop a rap. Meddyliwch am Inside Out yn cyfarfod â Skins yn cyfarfod â Kae Tempest.

Mae'r sioe yn dathlu stori’r arddegwr di-nod, Jax, wrth iddi/iddynt/beth bynnag lywio cariad,rhywioldeb, teulu a'r amryfal rannau o'i hymennydd swnllyd, llawn barn.

DYDDIADAU'R CONTRACT

w/d 1 Ionawr 2024 dau ddiwrnod paratoi i'w cadarnhau



w/d 8 Ionawr diwrnod cyntaf yr ymarferion yn y Sherman, Caerdydd

w/d 5 Chwefror ymarferion technegol yn y Sherman, Caerdydd

12 - 15 Chwefror ymarferion technegol yn y Sherman, Caerdydd

15 - 24 Chwefror perfformiadau yn y Sherman, Caerdydd



26 Chwefror – 1 Mawrth, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

4 - 8 Mawrth, Pontio, Bangor

11 - 13 Mawrth Ffwrnes Llanelli

15 - 16 Mawrth Feral Fest yn

18 - 22 Mawrth, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu



PWY RYDYN NI'N MEDDWL YR WYT TI O BOSIBL

Byddi di wedi dy gyffroi gan y cyfle i fod yn rhan o dîm sy'n gweithio i ddatblygu cynhyrchiad newydd. Byddi di'n aelod cryf o dîm, ond byddi di hefyd yn gallu gweithio'n dda yn annibynnol gan ddangos menter a'r gallu i flaenoriaethu. Rwyt ti'n ddatryswr problemau ardderchog, yn enwedig o dan bwysau. Rwyt ti'n byw yng Nghymru, neu cefaist ti dy eni a/neu roeddet ti'n astudio yma.  

Sgiliau a phrofiad a ystyriwn yn bwysig ar gyfer y rôl hon:

●      Gallu profedig i greu a chynnal perthynas waith gadarnhaol gyda chyfarwyddwr a thîm creadigol

●      Byddi di'n gyffrous am ddatblygu cynyrchiadau newydd

●      Byddi di'n gweithio'n dda fel rhan o dîm, yn fawr ac yn fach

●      Rwyt ti'n gweithio'n dda yn annibynnol ac yn gallu dangos blaengaredd a blaenoriaethu tasgau

●      Rwyt ti'n gallu datrys problemau mewn sefyllfaoedd â chyfyngiad amser

●      Profiad o alw sioeau sy'n berfformiadau gyda cherddoriaeth (nid oes angen i ti allu darllen/ciwio sgôr).

●      Profiad o weithio ar gynyrchiadau gyda symudiad a dawns

●      Profiad o redeg ystafell ymarfer gyflym a phrysur

●      Meddu ar wybodaeth ymarferol o Iechyd a Diogelwch

●      Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig

●      Sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Gwerthoedd a ystyriwn yn bwysig ar gyfer y rôl hon:

●      Byddi di'n mwynhau gweithio gyda phobl o amrywiol ddiwylliannau, gyda chefndiroedd ac ieithoedd gwahanol.

●      Byddi di'n poeni am bwysigrwydd cynrychiolaeth ac amrywiaeth yn y theatr ac yn ymroddedig i wrth-hiliaeth a gwrth-rhagfarn ar sail galluedd.

●      Byddi di'n hyrwyddo cynaliadwyedd, gan weithio mewn ffordd ecogyfeillgar sy'n helpu NTW i gyflawni ein hymrwymiadau i Lyfr Gwyrdd y Theatr.

●      Mae NTW yn cymhwyso'r 10 Egwyddor ar gyfer Mannau Gwaith Diogel A Chynhwysol. Gellir dod o hyd i'r rhain yma. Disgwyliwn i'n holl staff a staff llawrydd weithio o fewn y rhain

●      Angerdd dros wneud i’r theatr orau ddigwydd, yn y ffordd orau bosibl a gyda gofal am gydweithwyr a phawb yr wyt ti'n gweithio gyda nhw

Rydyn ni'n annog ceisiadau gan bobl o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, a'r rhai sydd wedi profi hiliaeth neu ragfarn ar sail galluedd.  

TELERAU AC AMODAU

Cyfraddau: £601 yr wythnos

Cyfnod: Contract llawrydd, tymor penodol yn seiliedig ar Gytundeb Theatr â Chymhorthdal Equity UK Theatre.

Treuliau:Telir costau teithio perthnasol ac adleoli yn ystod ymarferion a pherfformiadau yn y ddau lleoliad.

Lleoliad: Bydd ymarferion yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a'r cynhyrchiad yn mynd ar daith yng Nghymru

Mae gan National Theatre Wales bolisi Cyfle Cyfartal ac mae'n cydymffurfio â rheoliadau Asiantaeth Ffiniau'r DU. Bydd gofyn i ti ddangos tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU wrth gael eich penodi.

SUT I WNEUD CAIS

Rydyn ni'n dy annog i fynegi dy ddiddordeb yn y rôl hon ym mha ffordd bynnag rwyt ti'n teimlo'n fwyaf cyfforddus a hyderus. Gall hyn fod mewn fideo, neges sain neu e-bost. Pa bynnag fformat yr wyt yn ei ddewis, dyweda wrthym ni pa rôl yr hoffet gael dy ystyried ar ei chyfer a rho wybod i ni am dy brofiad a pham mae gennyt ddiddordeb mewn gweithio gyda NTW. Cyfeiria at yr adran 'Pwy rydyn ni'n meddwl yr wyt ti o bosibl' uchod yn dy gais a gwna'n siŵr dy fod yn dweud wrthym beth yw dy gryfderau!

Os hoffet ti siarad â rhywun am y rôl hon, cysyllta â  Bethan Dawson bethandawson@nationaltheatrewales.org.

Anfona ddatganiad o ddiddordeb erbyn dydd Llun 13 Tachwedd ’23 i bethandawson@nationaltheatrewales.org.

Ein nod yw cynnal cyfweliadau anffurfiol ar 16 a 17 Tachwedd ’23.

Dyddiad cau: 13/11/2023