Maniffesto newydd gan Gelfyddydau Anabledd Cymru a’i phartneriaid yn gofyn am hawliau diwylliannol a rhyngwladol i bobl anabl ar Ddiwrnod Rhyngwladol Anabledd 2021.

 

Dyddiad: 3ydd Rhagfyr 2021 4pm – 6pm

‘Diwrnod Rhyngwladol Anabledd’

Lleoliad: Zoom

Cysylltiadau Wasg: ruth@dacymru.com / owain@dacymru.com

Ar y 3ydd o Ragfyr 2021, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Anabledd, bydd  sefydliad cenedlaethol celfyddydau anabledd Cymru – Celfyddydau Anabledd Cymru – yn lansio maniffesto newydd sy’n ateb erthyglau 30 ac 32 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Pobl Anabl. Bydd y maniffesto, ‘Dewch â'n Hawliau Creadigol i ni: Maniffesto Diwylliannol a Rhyngwladol Pobl Anabl' yn dangos i’n cynrychiolwyr etholedig a’n sefydliadau cyhoeddus sut mae modd iddynt weithredu hawliau creadigol pobl anabl. Mae’n cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n bartner hefyd, ynghyd â Celfyddyd Rhyngwladol Cymru ac Anabledd Cymru.

Dywedodd yr artist anabl rhyngwladol o fri Kaite O’Reilly,
“Mae creadigrwydd a hunan-fynegiant yn hawl dynol sylfaenol. Mae adlewyrchu gwir amrywiaeth Cymru, a dathlu ei bod hi’n hanfodol bod y creadigrwydd hwnnw yn cael ei weld yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn allweddol i ddyfodol ein cenedl, ein diwylliant a lles pawb.”

Ym mis Tachwedd cynhaliodd Celfyddydau Anabledd Cymru a’i phartneriaid arolwg a phum grŵp ffocws, yn edrych yn benodol ar y ddwy erthygl berthnasol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant a chysylltiadau rhyngwladol.

O ganlyniad i’r arolwg ac allbwn y grwpiau ffocws, cafodd 11 o argymhellion eu nodi, ac yna eu plethu i mewn i’r maniffesto hwn. Cyflwynir yr argymhellion hyn i Lywodraeth Cymru ar y 3ydd o Ragfyr, er mwyn darparu’r potensial i gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl anabl.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Pobl Anabl yn cynnwys erthyglau sy’n esbonio sut dylai pobl anabl o bob oedran gael cefnogaeth a'u gwerthfawrogi fel dinasyddion yn eu gwledydd, mewn amryw o feysydd, o gyflogaeth, addysg i gymorth iechyd.

Yn ystod y digwyddiad ceir areithiau oddi wrth:

Jane Hutt – Aelod o'r Senedd a Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rhian Davies – Prif Weithredwr Disability Wales
Kate O’Reilly – dramodydd o fri rhyngwladol sydd wedi ennill gwobrau lu

Yn siarad hefyd bydd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

 “Mae gennym oll yr hawl i gael mynediad i gelfyddyd a diwylliant, fel aelodau o gynulleidfaoedd, ac i gymryd rhan a chreu gwaith. Yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn cefnogi’r safbwynt o gael model cymdeithasol o anabledd, ac yn datgan yn gryf mae ein cyfrifoldeb ni a chyfrifoldeb y sefydliadau a ariennir gennym yw i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n llesteirio pobl anabl rhag cyflawni eu dyheadau creadigol ym maes y celfyddydau. Mae cefnogi’r maniffesto hwn yn datgan ein hymrwymiad i gyd-weithio gyda phobl anabl er mwyn gwireddu eu cynnwys yn llawn ym mwynhau a chreu’r celfyddydau. Bydd ein cymdeithas yn gyflawn yn fwy cyfoethog yn ddiwylliannol os bydd pobl anabl â hawliau creadigol sydd mor aml, ac er cywilydd, wedi ei wadu iddynt”

Dywedodd Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Mae’r maniffesto hwn yn garreg filltir bwysig a allai drawsnewid profiad pobl anabl o’r celfyddydau a’r ffordd y maent yn ymwneud â’r celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. Mae pobl anabl yn profi nifer o rwystrau o ran cael mynediad i’r celfyddydau , fel artistiaid a dinasyddion. Maent hefyd wedi eu heffeithio yn anghymharol gan bandemig Cofid a’r argyfwng hinsawdd. Mae llawer o waith i’w gyflawni, ond bydd ymateb i alwadau’r maniffesto hwn yn esgor ar newid. Mae’r gosodiad celfyddydol grymus gan yr artist Catherine Taylor Parry o gadair olwyn gydag esgyll euraid yn cynrychioli’r weledigaeth o fynediad di-rwystr i’r celfyddydau sydd wedi ei ysbrydoli gan y maniffesto hwn. Wrth ini ail-feddwl sut y mae’r celfyddydau yn gweithredu yng Nghymru ac yn rhyngwladol, mae gennym gyfle i roi hawliau creadigol a chyfiawnder cymdeithasol ar gyfer pobl anabl yn ganolog i’r ffordd yr ydym yn buddsoddi yn y celfyddydau yng Nghymru.”


Dywedodd Dr Natasha Hirst, Cadeirydd DAC:

"Wrth i ni ddatblygu ein maniffesto, daeth yn amlwg ei bod hi’n parhau yn rhy hawdd o lawer i anwybyddu pobl anabl pan fyddwn yn galw am fynediad i’r celfyddydau ac i ddiwylliant. Yn sicr nid ydym yn cael ein trin yn gyfartal er gwaethaf degawdau o ddeddfwriaeth a chreu polisïau sy’n honni eu bod yn rhwystro ein heithrio. Mae Celf a diwylliant yn ganolog i bob newid cymdeithasol a diwylliannol a rhaid i ni fod yn gyfranwyr cyfartal a gweledig yn y broses honno. Dim ond trwy gael mynediad llawn i’n hawliau y gall hynny ddigwydd. Mae pobl anabl wedi hen alaru ar siarad gwag. Rhaid gweithredu nawr."

 

Bydd y digwyddiad yn cychwyn am 16:00 GMT a bydd yn cynnwys dau berfformiad. Un, gan y cerddor a'r artist sain amgylcheddol Cheryl Beer, ac un arall gan yr artist, awdur, actor, a chyfarwyddwr Chris Tally Evans. Bydd y darnau hyn a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer i digwyddiad yn cyfleu ysbryd a phwysigrwydd y maniffesto ac yn cynnig cynnwrf creadigol wrth i’r broses o gynnal ymchwil i'r arwyddocâd a ddaw yn sgil y maniffesto o ran hybu hawliau artistiaid anabl yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â

Disability Arts Cymru Owain@dacymru.com |+44 (0) 7904 604187

ruth@dacymru.com

 


Nodiadau i Olygyddion

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ar Zoom a gall cynulleidfaoedd gofrestru trwy'r ddolen hon.

Sefydlwyd Celfyddydau Anabledd Cymru ym 1982. Maent yn credu mewn cynyddu mynediad a chyfle, dathlu amrywiaeth, meithrin talent newydd ac artistiaid anabl / Byddar ag enw da ac ymarferwyr creadigol, gan ysbrydoli newid ledled Cymru. Wrth ysgogi, cefnogi a darparu celfyddydau anabledd a Byddar rhagorol o amrywiaeth eang o safbwyntiau diwylliannol, rydym yn hyrwyddo ac yn datblygu dealltwriaeth o'r model cymdeithasol o anabledd.

Mae mwy o wybodaeth am Gelfyddydau Anabledd Cymru ar gael ar disabilityarts.cymru

Mae’r cefnogwyr a restrir isod ar gael i’w cyfweld:

Kaite O’Reilly – dramodydd o fri rhyngwladol ac arobryn
+44 (0) 7775944345
kaitekor@aol.com
http://kaiteoreilly.co.uk/

Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (Siaradwr Cymraeg) Mae Eluned ar gael i gynnal cyfweliadau 12-2pm dydd Gwener eluned.haf@wai.org.uk neu catrin.morris@wai.org.uk