Meithrin Cyfnewid Diwylliannol gyda Chelfyddydau a Diwylliant Wcrain

Сприяння культурним та мистецьким обмінам з Україною. 

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig mewn partneriaeth â Sefydliad Diwylliannol Wcráin a Sefydliad Wcráin yn cynnal digwyddiad ar-lein trwy Zoom ddydd Mercher 17 Ebrill am 12:00yp.

Dydd Mercher 17eg Ebrill 2024 

12:00yp-1:00yp GMT 

Ar-lein dros Zoom 

Bydd y sesiwn wybodaeth yma yn gyfle i’r sector celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru ddysgu sut i gefnogi a meithrin cysylltiadau diwylliannol ag artistiaid a diwylliant Wcrain yn ystod y cyfnod anodd hwn.