Bydd Ballet Cymru yn cynnal cydweithrediad cyffrous â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) gyda bil triphlyg ar y cyd yng Nghanolfan Glan-yr-Afon, Casnewydd, ddydd Iau 30 a dydd Gwener 31 Hydref.

Yn arddangos tri darn o waith byr anhygoel gan goreograffwyr o'r radd flaenaf, bydd y noson yn cynnwys Momentum – Undone gan Marcus Jarrell Willis, Cyfarwyddwr Artistig  Phoenix Dance Theatre, sy'n adnabyddus am ei gyfuniad nodedig a ddi-dor o hiwmor a cherddoriaeth. Bydd Cyfarwyddwyr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE ac Amy Doughty, yn cyflwyno creadigaeth newydd sbon, Woven, yn arbennig ar gyfer y rhaglen hon.  

Gan ddathlu 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, mae'r dawnswyr ifanc yn dychwelyd fel gwesteion arbennig am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan berfformio The Night is Darkest Just Before The Dawn gan y coreograffydd enwog Yukiko Masui. Dyma ddarn sy'n arddangos symudiad pwerus, gan gyfuno dawns Gyfoes, Hip Hop, a Chrefft Ymladd. Mae'r darn yn cael ei ddisgrifio fel teyrnged i 'gefnogwyr tawel' - pobl sy'n sefyll wrth ein hochr yn ystod adegau tywyllaf ein bywyd ac yn ein cefnogi heb gydnabyddiaeth. 

Wrth siarad am y darn, meddai Masui: “Fe ysbrydolwyd y darn gan gymeriad yr archarwr, cymeriad hynod bwerus ond mae’n gweithio gyda’r nos, yn y tywyllwch. Does dim sbotolau arno, ond mae’n gwneud pethau dros bobl eraill ac yn hynod bwerus pan does neb yn gwylio.” 

Dan gyfarwyddiad Yukiko Masui a Jamie Jenkins, Pennaeth Dawns Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae’r cwmni wedi cael ei feithrin drwy amrywiaeth o ddosbarthiadau; megis techneg, archwilio creadigol, dosbarthiadau lles, a mentoriaeth, gyda’r rhan helaeth dan arweiniad cyn aelodau DGIC.  

Dwedodd Carlie, o Gastell-nedd, aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025: "Mae'n Hydref o'r diwedd ac mae hynny'n golygu mai dim ond ychydig wythnosau sydd i fynd tan berfformiad DGIC ac ni allwn aros! Rwy'n gyffrous am y perfformiad hwn oherwydd ein bod ni'n cael rhannu'r llwyfan gyda'r anhygoel Ballet Cymru. Mae'r perfformiad yma’n teimlo'n arbennig iawn, gan fod y cwmni’n dod at ei gilydd i berfformio yng Nghymru, yn cynrychioli ein gwlad, gan rannu ein hangerdd a'n gwaith caled gyda'r gynulleidfa. Rydym yn gobeithio eich gweld chi i gyd yno yn Theatr Glan-yr-Afon Casnewydd ar 30 a 31 Hydref!"  

Dywedodd Jack, o Abertawe aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2025: “Dw i mor gyffrous cael perfformio unwaith eto gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru ym mis Hydref. Mae’n gyfle anhygoel, cael rhannu’r llwyfan gyda dawnswyr mor dalentog a pherfformio gwaith gan y coreograffydd Yukiko Masui. Ni allaf aros i ddod â’n holl waith caled yn fyw a rhannu’r profiad arbennig yma gyda’r gynulleidfa. Dw i mor falch o fod yn ddawnsiwr gyda Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.” 

Yn ystod yr haf, daeth cwmni Pen-blwydd DGIC yn 25 at ei gilydd yng Nghaerdydd ar gyfer preswyliad pythefnos o hyd. Nod y preswyliad oedd creu ac ymarfer fersiwn estynedig o’r gwaith cyn mynd i Sadler’s Wells East, Llundain, i’w berfformio am y tro cyntaf ochr yn ochr â National Youth Dance Company Scotland a National Youth Dance Company. Roedd y gynulleidfa gyfan ei thraed yn cymeradwyo. 

Archebwch eich tocynnau heddiw, ar gyfer eich cyfle olaf i weld y perfformiad arbennig yma. Mae tocynnau’n costio rhwng £17 ac £20, gyda chonsesiynau ar gael.