Yn ystod blwyddyn eithriadol o heriau sydd wedi dod â bywoliaeth artistiaid ledled y byd i stop, mae'r celfyddydau yng Nghymru yn profi ffrwydrad digidol o gynnwys creadigol yn ymateb ac yn cyfrannu at lesiant, gan ddenu diddordeb rhyngwladol. 

Flwyddyn ers cadarnhau i Only Boys Aloud (OBA) fod eu taith i Siapan ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020 wedi'i gohirio am gyfnod amhenodol, mae prosiect rhithwir wedi'i lansio i gadw'r cysylltiad yn fyw gyda chorau ieuenctid mewn tair dinas yn Siapan, diolch i fuddsoddiad gan Asiantaeth Ddiwylliannol Llywodraeth Siapan. Mae'r daith ddisgwyliedig, a'r cydweithio erbyn hyn, gyda Kitakyushu, Kumamoto ac Oita, dinasoedd wnaeth letya tîm Rygbi Cymru a chynnig croeso mor gynnes i Gymru yn ystod Cwpan y Byd yn 2019.

Y daith OBA a ganslwyd ym mis Chwefror 2020 oedd y cyntaf o filoedd o ddyddiadau rhyngwladol i gael eu dileu o ddyddiaduron artistiaid yng Nghymru wrth i gynlluniau barhau i gael eu gohirio.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd Dros Dro OBA Craig Yates:

“Rydym wrth ein bodd yn Aloud i fod yn gweithio gyda'r tri chôr yn Siapan. Mae pob côr yn cael ei arwain gan bâr o'n harweinwyr côr Aloud talentog yng Nghymru, ac rydym yn cynnal yr ymarferion ar-lein, yn fyw, tua 6000 milltir i ffwrdd.

Roedden ni'n hynod siomedig nad oedden ni'n gallu ymweld â Siapan y llynedd i barhau â'r berthynas gafodd ei sefydlu rhwng y ddwy wlad yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn 2019. Rydym wedi bod wrth ein bodd bod defnyddio technoleg wedi ein galluogi i barhau â'r prosiect hwn ac i adeiladu cyfnewid artistig a diwylliannol rhwng y ddwy wlad.

 Rydym yn dysgu fersiwn wedi'i threfnu'n arbennig o'n Calon Lân i'r corau, ac ni all ein bechgyn, arweinwyr corau a phawb yng Nghymru aros i glywed y tri chôr hyn yn canu'r gân eiconig hon. Gobeithiwn mai dyma'r cam cyntaf un mewn cyfnewidfa ddiwylliannol gyffrous rhwng y ddwy wlad.

Mae ymarfer rhithwir wythnosol Only Boys Aloud wedi bod o fudd i iechyd meddwl eu holl aelodau, ac mae dros 100 o fechgyn o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan mewn ymarferion byw bob wythnos. Iddyn nhw, mae gallu canu a mynegi eu hunain fel hyn wedi bod o fudd mawr i'w hiechyd meddwl a'u lles.

Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, mae OBA yn lansio prosiect o'r enw “Everyone Aloud” a oedd yn gwahodd unrhyw un o unrhyw le yn y Byd i ymuno â ni mewn cân i greu côr rhithwir enfawr.”

 

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Ers Dydd Gŵyl Dewi 2020, mae miliynau ar draws y byd wedi dioddef y golled boenus o fywydau a bywoliaethau, o gysylltiad a gweithgarwch cyffredin.  Yn benodol, mae byd plant a phobl ifanc wedi cael ei troi ar ei ben i waered - mewn cyfnod clo, yn ansicr ac yn bryderus.

Dyna pam mae'n bleser arbennig cyhoeddi cydweithrediad rhwng cantorion ifanc yng Nghymru a Siapan. Yr wythnos Dewi Sant hon, bydd lleisiau'n cael eu codi a bydd ein bywydau cyffredin fel dinasyddion y blaned yn cael eu cadarnhau.

Mae Only Boys Aloud yn gôr ysbrydoledig a llawn llawenydd, sy’n cael eu dathlu am ddatblygu talentau cerddorol a chynnig cyfleoedd sy'n newid bywydau i lawer o'r cantorion ifanc, rhai sydd wedi cael eu magu mewn sefyllfaoedd heriol.

Nid yw taith rithwir yn dileu siom yr ymweliad i Siapan a ganslwyd y llynedd ond mae'n ddatganiad o obaith ac undod.”

 

Bydd ymgyrch ddigidol Pethau Bychain – Small things dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cael ei lansio ar AM ddydd Llun 1 Mawrth, Diwrnod Cenedlaethol Cymru a bydd yn arddangos cynnwys artistig a grëwyd yn bennaf yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru gan lawer o artistiaid a sefydliadau amrywiol sy'n ymateb i her Nodau Llesiant Cymru, ein cyfraniad lleol i Nodau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig.

Mae'r ymgyrch yn dechrau gyda galwadau am weithredoedd bach o garedigrwydd a thegwch i bawb gan artistiaid gan gynnwys Kelly Lee Owens, Rhys Ifans, Rakie Ayola, Catrin Finch, Gareth Bonello ac eraill, gan ymateb i fantra Dewi Sant Gwnewch y Pethau Bychain – Do The Small Things.

 

Dywedodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Mae'n rhyfeddol sut, mewn rhannau o Gymru sy'n cael eu taro'n galed gan y pandemig hwn, mae artistiaid wedi tynnu eu gwaith oddi ar y llwyfan, ac i ofod theatr gwahanol – boed hynny mewn ysbytai a'r awyr agored neu mewn byd rhithwir a llwyfannau digidol.

Mae gan y celfyddydau rôl gwneud newid i'w chwarae o ran galluogi cymunedau i wneud y mwyaf o'u cyfraniad tuag at nodau llesiant lleol a byd-eang ac, yn bwysig, wrth greu stori wahanol i ni i gyd ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.”

 

Yn cael ei gynnal rhwng 1-8 Mawrth, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn tynnu sylw at sut y gall gwneud y pethau  bychain wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymuned, i'n planed ac i'n lles ein hunain, a sut mae'r celfyddydau'n ganolog i hyn. Bydd #PethauBychain #SmallThings yn parhau drwy gydol y flwyddyn.

Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn parhau â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi dros yr wythnos, gan bontio dau benwythnos o wyliau rhithwir Gŵyl Dewi (rhyngwladol) a Gŵyl 2021 (y DU ac Iwerddon) y penwythnos canlynol, gan orffen ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth.

Bydd pob diwrnod yn cynnwys gwaith artistig sy'n dod â llawenydd neu ryddhad gan ganolbwyntio ar weithredoedd bach o ofal a charedigrwydd. Mae pob un yn cysylltu â saith Nod Llesiant Cymru - cyfraniad Cymru i Nodau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig. 

Bydd y prif gynnwys ar gyfer pob diwrnod yn cael ei ddarlledu ar blatfform AM, llwyfan digidol democrataidd newydd sy'n arddangos, dathlu a rhannu creadigrwydd diwylliannol o Gymru.