Dan arweiniad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, fe gychwynnodd “Assemble” yn ystod Hydref 2023. Mae’n brosiect creadigol llawen dwy flynedd o hyd, sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â dychymyg a chynhwysiant, gyda’r sbotolau ar bobl ifanc. 

Rydym wedi cydweithio â thair ysgol nad ydynt yn y brif ffrwd ar draws De Cymru (Ysgol y Deri, Ysgol Greenfield ac Ysgol Crug Glas) gan gyflwyno gweithdai creadigol bob pythefnos, trefnu ymweliadau diwylliannol, a helpu pobl ifanc anabl i archwilio’u syniadau, hunaniaethau a’u talentau drwy’r celfyddydau.  

Ac ar ddydd Iau 10fed o Ebrill, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, roedd hi’n amser i ni ddathlu popeth maen nhw wedi’i gyflawni! 

Fe agorwyd y diwrnod gan ein tîm Cyfranogiad a Dysgu – Hope Dowsett a Bruna Garcia – ac fe roddwyd croeso cynnes, egnïol i deuluoedd, athrawon, cefnogwyr a phobl ifanc. Cafwyd diwrnod o rannu perfformiadau, dathlu, ac, wrth gwrs… cacen. 

“Mae hwn wedi bod antur fywiog, egnïol ac ambell dro’n llawn swigod” 
 – Bruna Garcia, Swyddog Cyfranogiad a Dysgu 

Roedd ein gwaith yng Nghymru yn rhedeg ochr yn ochr â rhaglenni cyfochrog yn Llundain a Manceinion, gyda phob elfen wedi'i chynllunio i adlewyrchu lleisiau a blaenoriaethau lleol. Yma yng Nghymru, rydym wedi bod yn falch o arwain gyda gofal, creadigrwydd a chymuned. 

O weithdai yn yr ystafell ddosbarth i deithiau theatr bythgofiadwy (ie, roedd y pengwiniaid ym Madagascar yn uchafbwynt go iawn!), mae Assemble wedi bod yn ymwneud â chreu mannau diogel a chyffrous i bobl ifanc archwilio pwy ydyn nhw, cysylltu ag eraill, a meithrin eu hyder trwy greadigrwydd. 

“Yr hyn sydd wedi gwneud y prosiect yma mor arwyddocaol yw’r gymuned y mae e wedi’i greu”, meddai Hope. “Mae pobl ifanc a gwirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd drwy eu hangerdd dros greadigrwydd, meithrin cyfeillgarwch, datblygu gwaith tîm, a dod yn eiriolwyr dros newid.” 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu sesiynau bob pythefnos – yn llawn chwerthin, chwarae, sgyrsiau ystyrlon a sawl paned o de. Ond y peth mwyaf amlwg oedd y llawenydd pur yn yr ystafell.   

“Mae Assemble wedi dangos i ni’r hyn sy’n bosib pan fyddwn wirioneddol yn gwrando ar bobl ifanc – yn enwedig y rheiny nad ydynt yn cael gwrandawiad yn aml. Mae tîm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn hynod falch o bob person ifanc a gymerodd ran. Byddwn yn parhau i gefnogi pwysigrwydd y celfyddydau a chydweithrediad creadigol ar gyfer pob person ifanc yng Nghymru, gan gynnwys y rheiny nad ydynt mewn ysgolion prif ffrwd.”  
— Evan Dawson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn ymdrech gyfunol gyda’n partneriaid ardderchog, o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr, meddyliau creadigol Hijinx, Craidd, ac Uchelgais Grand, i ymchwilwyr London Metropolitan University, Tîm Creadigol Dysgu Canolfan Mileniwm Cymru, a’r athrawon arbennig sy’n gadael i ni droi eu hystafelloedd dosbarth yn llwyfannau, moroedd, a lloriau dawns. 

Diolch o galon i’n harianwyr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Paul Hamlyn — am wneud prosiectau fel yma’n bosib, ac am gefnogi’r math o gelfyddydau sydd wirioneddol yn newid bywydau. 

Wrth gwrs, mae’r diolch mwyaf i’r bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o Assemble. Rydych chi wedi dangos beth sy’n bosib pan mae creadigrwydd i bawb

Daeth y diwrnod i ben yn y ffordd orau posib – gyda phaned a chacen. Oherwydd os ydyn ni wedi dysgu unrhyw beth yn ystod Assemble, mae pethau gwych yn digwydd pan fyddwn yn dod ynghyd. A dyw parti ddim yn barti heb baned a chacen! 

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus mai megis cychwyn yw hwn i’r bobl ifanc sy’n rhan o Assemble. Nid yw’r siwrne hon yn dod i ben fan hyn – gawn ni barhau i greu, cysylltu a dathlu pobl ifanc ledled Cymru.