Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn dychwelyd i Orllewin Cymru'r hydref hwn, gan ddod â phenwythnos gwych arall o gerddoriaeth, straeon a chanu i leoliadau ledled tref hanesyddol Aberteifi.

Mae’r Llwybr eleni yn cwmpasu mwy na deg lleoliad unigryw ar draws y dref - o dafarndai a chapeli, mannau sydd wedi'u hailbwrpasu’n ddiweddar a llawer o hen ffefrynnau - gan addo penwythnos bythgofiadwy arall o gerddoriaeth fyw ac egni byrlymol.

Heddiw, datgelir y don gyntaf o artistiaid ar gyfer Llwybr Cerdd 2025 - detholiad o artistiaid sy'n cwmpasu genres a seiniau o Iwerddon a Cymru.

Gyda llawer mwy i'w cyhoeddi, ymhlith y don gyntaf o artistiaid mae:

Baby Brave / Bruna Garcia / Curtisy / Daithí / Danielle Lewis / David Murphy / Ellie O’Neill / God Knows / Gwen Siôn / Joshua Burnside / Kidsmoke / Makeshift Art Bar / Molly Palmer / Morn / Qbanaa / Roís / Salamay / Séamus & Caoimhe Uí Fhlatharta / Siula / Still Blue / Taff Rapids / Talulah / Tessio / The Factory Set / Tokomololo / Tramp / Wrkhouse

Fel bob amser, bydd Eglwys y Santes Fair yn cynnal cyfres o brif berfformiadau unigryw, agos atoch a ddarlledir yn fyw i'r byd am ddim trwy sianel YouTube Other Voices, a’u ffrydio i sgrin sinema yn y Mwldan fel y gall pawb rannu yn y profiad.

Yn newydd ar gyfer 2025, bydd cyfle gan bob deiliad band arddwrn yr ŵyl i fynychu perfformiadau'r Eglwys ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd gan bob artist slot dynodedig, gyda'r Eglwys yn cael ei chlirio rhwng setiau i roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl fynychu. Nid oes angen tocynnau ar wahân - ymunwch â'r ciw ar gyfer yr artistiaid yr hoffech eu gweld a phrofi'r hud y tu mewn i Eglwys y Santes Fair.

Bydd y sesiynau Clebran yn dychwelyd ar gyfer 2025, gyda sgyrsiau pwerus, cyfweliadau sy'n procio’r meddwl a syniadau ffres sy'n archwilio'r materion sy'n llunio ein byd heddiw. Caiff rhaglen lawn Clebran ei datgelu'n fuan - cadwch lygad allan.

Ac yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae Clebran ar hyd y Llwybr hefyd yn dychwelyd, gan ddod â sgyrsiau agos atoch gyda pherfformwyr eleni i leoliadau ledled y dref.

Mae bandiau arddwrn cynnar ar gael nawr am £40 yn unig, gan roi mynediad i bob perfformiad ar y Llwybr Cerddoriaeth, sesiynau Clebran a pherfformiadau yn yr Eglwys (yn amodol ar gapasiti). O 1af Gorffennaf, bydd y pris yn codi i £65.

Bachwch eich band nawr yn othervoices.ie ac ymunwch â ni am benwythnos gwych arall yn Aberteifi!

Meddai Philip King, sylfaenydd Lleisiau Eraill:

“Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ddod â Lleisiau Eraill i Aberteifi a bydd ein rhaglen ar gyfer 2025 yn tynnu sylw at yr ystod doreithiog ac amrywiol o gerddoriaeth newydd wych sy’n llifo o Iwerddon a Chymru heddiw. Bydd cyfres sgyrsiau teirieithog Clebran eleni yn edrych ar faterion o bwys trwy lens y lleol, gyda phersbectif sy’n adlewyrchu’r hunaniaethau a rennir yn ogystal â’r nifer o hunaniaethau unigryw yn Iwerddon a Chymru yr ydym yn eu dathlu yma trwy ein hieithoedd a’n cerddoriaeth. Gyda’n partneriaid yn y Mwldan a Triongl, rydym yn ddiolchgar am y cyfle i chwarae ein rhan wrth ddyfnhau a chryfhau ein cysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru fel y rhagwelwyd gan ein dwy Lywodraeth yng Nghyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2021-25. Edrychwn ymlaen at weld Lleisiau Eraill yn parhau i dyfu a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”

Meddai Dilwyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol y Mwldan:

“Rydym wrth ein bodd yn gallu dod â phumed ŵyl gorfforol Lleisiau Eraill i Aberteifi yn 2025. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym wedi gweld twf aruthrol yn nifer y gynulleidfa wrth i’r gair ledaenu am ba mor arbennig yw profiad yr ŵyl hon. Rydym yn barod i groesawu cynulleidfaoedd ac artistiaid o Iwerddon, Cymru a mannau eraill i’n tref fach hyfryd ar ymyl gorllewinol Cymru i greu a rhannu rhywfaint o hud bythgofiadwy. Hefyd mae ein dyled yn fawr i’n harianwyr am gefnogi’r digwyddiad gwych hwn.”

Cynhyrchir Lleisiau Eraill Aberteifi gan South Wind Blows mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl, gyda chefnogaeth a buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cyngor Sir Ceredigion a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a BBC Cymru. Caiff Lleisiau Eraill Aberteifi ei ffilmio ar gyfer darllediad teledu sydd ar ddod ar BBC Cymrus ac RTÉ, ac ar BBC iPlayer ac RTÉ Player.

30 Hydref - 1 Tachwedd  2025
Yn fyw ac Ar-lein o Orllewin Cymru  

🔗 www.othervoices.ie