Cyflwyniad i Gytundebau a Hawlfraint
Ar gyfer pwy?
Mae'r sesiwn yn agored i awduron newydd a phrofiadol sy'n byw a gweithio yng Nghymru.
Nod y sesiwn
Sesiwn ar gyfer awduron newydd a phrofiadol sydd yn chwilio am well dealltwriaeth o gytundebau a hawlfraint. Byddwn yn cyffwrdd ar gytndebau ar draws nifer o ddulliau ysgrifennu gan gynnwys teledu, ffilm, theatr, llyfrau a gemau yn ogystal â chytundebau i awduron sy’n gweithio yng Nghymru.
Erbyn diwedd y gweithdy dylai fod gennych …
- Dealltwriaeth o hawlfraint.
- Dealltwriaeth o’r gwahanol fathau o gytundebau awduron sy’n bodoli.
- Cyfle i holi cwestiynau perthnasol am fanylion cytundebau.
John Sailing - Uwch Drefnydd (WGGB)
Mae John yn gyfrifol am arwain y tîm gwaith achos, gan gynghori aelodau ar faterion cytundebol a hawlfraint. Mae John hefyd yn chwarae rhan allweddol yn WGGB ac ymgyrchoedd undeb ar y cyd, yn arwain ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gwaith yr undeb ac yn trefnu aelodau ledled y wlad.
Manon Eames - Cyd -Gadeirydd Cymru (WGGB)
Mae Manon Eames yn awdures, actores a chyflwynydd profiadol sydd wedi'i lleoli yn Ne Cymru. Mae hi'n aelod llawn o Equity and The Writers' Guild of Great Britain, y bu'n Gadeirydd Pwyllgor Cymru ers blynyddoedd lawer (Cyd-gadeirydd bellach). Mae Manon wedi ymrwymo’n llwyr i wella cyflog, amodau gwaith, cyfleoedd a hyfforddiant i awduron proffesiynol sy’n dod i’r amlwg, sy’n dyheu ac yn brofiadol yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Manon hefyd yn aelod allweddol o Grwp Llywio CULT Cymru.