Rydym yn credu bydd y sector gelfyddydol yn gryfach a mwy gwydn trwy weithio gyda’n gilydd er budd y celfyddydau, artistiaid a chynulleidfaoedd. Mi fydd y cydweithio yn ddechrau ar bartneriaeth dymor-hir y byddwn yn ceisio ei thyfu a’i datblygu dros amser.

Mae’r cytundeb yn cynnwys y meysydd canlynol: Gweithwyr llawrydd, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Sgiliau, Rhyngwladol, Cerddoriaeth, Digidol, Ffilm, Cyhoeddi ac Ysgrifennu a Marchnata a Chyfathrebu. 

Mae’r ddau gorff wedi ymrwymo i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac eisiau gosod seiliau cadarn ar gyfer gweithio’n fwy effeithiol gyda phobl, cymunedau a’n gilydd. Mae ein gwaith yn cael ei ysgogi gan ddyheuad i greu Cymru â diwylliant bywiog ble mae’r Gymraeg yn ffynnu.