Oes gyda chi gysylltiadau gyda Japan?
2025 yw Blwyddyn Cymru yn Japan Llywodraeth Cymru. Er mwyn helpu i gynllunio a thrafod rhaglen, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wrthi’n diweddaru ein trosolwg o gysylltiadau celfyddydol rhwng Cymru a Japan a hoffwn eich cymorth. Yn benodol, rydym yn awyddus i gael gwybod am bartneriaethau a gweithgarwch diweddar, prosiectau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd ac unrhyw weithgarwch sydd wedi’i gadarnhau ar gyfer y dyfodol.
Os oes gennych chi neu’ch sefydliad gysylltiadau creadigol gweithredol (neu esblygol) gyda phartneriaid yn Japan, rhowch wybod i ni drwy gwblhau’r arolwg byr hwn.
Diolch am eich amser a’ch mewnbwn.