Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl sy’n gweithio yn sector y celfyddydau, ac fe welwch isod restr o gyrsiau cyfredol sy’n rhan o’r cynllun hwn sydd â lleoedd ar gael o hyd.

Dewis cwrs
Os nad ydych yn siŵr pa gwrs i’w fynychu, gallwch glicio yma i gael mynediad at lyfrau cwrs i'ch helpu i ddeall pa lefel sy’n addas i chi. Fel arall, os byddai'n well gennych siarad â rhywun allai roi cyngor i chi o ran deall eich lefel, cliciwch ar ddolen cwrs yr ydych yn ei ystyried a dylech ddod o hyd i rif ffôn perthnasol. Os ar ôl dechru cwrs y byddwch yn teimlo nad ydych ar y lefel gywir, peidiwch â phoeni, gallwch drosglwyddo at gwrs arall.

Darperir yr holl gyrsiau drwy gytundeb â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ewch i'w gwefan i ddarganfod mwy am eu holl ddarpariaethau a chynigion https://dysgucymraeg.cymru/ 

Cyrsiau

Mynediad 1
Mercher  09:30 - 11:30 
Cwrs sydd newydd ddechrau a bellach ar Uned 3. 
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/7786bdac-a4ee-ef11-90cc-95b87e28d848/

Mynediad 1
Mercher 13:30 - 15:30 
Cwrs sydd bellach ar Uned 14 ac ar fin dechrau Mynediad 2.  
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/5b270316-6340-ef11-991a-abd3a0abb585/

Mynediad 2  
Iau 14:00 - 16:00 
Cyfle i ymuno efo dosbarth o uned 17 ymlaen.
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/c933ac72-c0b7-ef11-88f9-c14301187033/

Sylfaen 1 
Llun 14:30 - 16:30 
Cyfle i astudio’r cwrs Sylfaen o Uned 10 ymlaen. 
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/976f6403-53a3-ef11-88d1-a0918cf73f87/

Sylfaen 1 
Mawrth 13:00 - 15:00  
Cyfle i ymuno efo dosbarth sydd ar uned 5 or llyfr Sylfaen.
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/1cc65a5c-5aa3-ef11-88d1-a0918cf73f87/

Canolradd 1
Mercher 10:00 - 12:00
Cyfle i ymuno efo dosbarth sydd ar uned 5 o’r cwrs Canolradd.
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/8c952b79-5ba3-ef11-88d1-a0918cf73f87/

Uwch 1 
Mawrth 11:00 - 13:00
Cyfle i ymuno efo dosbarth sydd ar uned 8 o’r cwrs Uwch 1.
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/7dc6da52-1092-ef11-9c35-fcb011adf1a9/

Uwch 2 
Gwener 10:00 - 12:00
Cyfle i ymuno efo dosbarth sydd ar uned 9 o’r cwrs Uwch 2.
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/a5678e34-af42-ef11-991a-abd3a0abb585/

Gloywi / Codi Hyder
Mawrth 09:30 - 11:30 
Mae'r lefel yma ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg sy eisiau magu hyder i ddefnyddio a mwynhau eu sgiliau iaith. Bydd y cwrs yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion yr unigolion ac mae croeso i chi ymuno unrhyw bryd. 
https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/53e6ac9c-6440-ef11-991a-abd3a0abb585/

Am wybodaeth ynghylch digwyddiadau yn eich ardal chi i gefnogi eich dysgu, cliciwch yma ac yna dewiswch eich ardal ac edrych am y dyddiadur/digwyddiad.