Ers penodi Cydlynydd a thiwtor i Gyngor Celfyddydau Cymru mae sawl cwrs a chyfle ar waith. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig yr holl gyrsiau – am ddim. O ddechreuwyr hyd at siaradwyr Cymraeg sydd eisiau gloywi eu hiaith. Cyfle i bawb yn y Celfyddydau, beth bynnag eich cefndir yn gyflogedig neu’n llawrydd. Cysylltwch gyda Rhodri.trefor@celf.cymru i drafod eich gofynion dysgu. A dewch i gofrestru ar ein cyrsiau - o Fynediad i Hyfedredd.
Yn Ionawr 2023 bydd 30 o ddechreuwyr pur yn mynd i Nant Gwrtheyrn am bythefnos ac yna yn parhau i astudio gyda thiwtor y Cyngor ar y cwrs “Ar Garlam”. Dysgu dwy flynedd o Gymraeg mewn blwyddyn a gallu cynnal sgwrs.
Hefyd, mae dau gwrs dwy awr yr wythnos ar gyfer dechreuwyr yn cael ei ddysgu gan diwtor y Cyngor ac yn llawn, ac un cwrs Sylfaen. Mae rhestr o enwau ar gyfer dysgwyr newydd a phrofiadol i ddechrau ym mis Ionawr. Hoffech chi ymuno â’r rhestr hon? Pa anrheg well y Nadolig yma?
Dechrau o’r 9fed o Ionawr ymlaen cofrestrwch drwy e-bost cyn iddyn nhw lenwi:
Mynediad- Dydd Mawrth o 2:30-4:30
Sylfaen- Dydd Mercher 2:30-4:30
Canolradd- Dydd Iau 10-12 a 2:30-4:30
Uwch Dydd Gwener o 10-12