Bob blwyddyn mae Llenyddiaeth Cymru yn gwahodd awduron newydd i ymgeisio ar gyfer Cynrychioli Cymru, un o’u prif gynlluniau datblygu awduron. Yr wythnos diwethaf buont yn dathlu llwyddiannau carfan 2024-25 y rhaglen, a heddiw fe wnaethon nhw gyhoeddi'r 14 o awduron disglair sydd ar fin cychwyn ar eu taith ddwys blwyddyn o hyd gyda Llenyddiaeth Cymru.

Yn dilyn galwad agored yn ystod Hydref 2024 a ddenodd dros 140 o geisiadau, dewiswyd yr awduron gan banel asesu annibynnol ym mis Chwefror eleni. 

Dewch i ’nabod carfan Cynrychioli Cymru 2025-2026! 

 Rhaglen Cynrychioli Cymru: 

Mae Cynrychioli Cymru yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chymorth ymarferol i awduron sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru. Bydd pob un yn derbyn nawdd ariannol o £3,000 ynghyd â £300 ar gyfer treuliau, a fydd yn cefnogi’r awduron i fynychu digwyddiadau llenyddol, cyflwyno eu gwaith i gylchgronau a chyfnodolion a chael mynediad at ddeunyddiau sy’n gydnaws â’u hymarfer ysgrifennu. Bydd pob awdur hefyd yn cael eu paru â mentor o’u dewis, fydd yn cynnig adborth ac arweiniad pwrpasol ar eu hysgrifennu a’u gyrfa fel awdur.  

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglen amrywiol ac addysgiadol o weithdai a sgyrsiau, ystafelloedd ysgrifennu, ystafelloedd darllen, a dosbarthiadau meistr, i helpu i ysbrydoli a meithrin talent, datblygiad a gyrfaoedd y garfan. Mae rhaglen Cynrychioli Cymru wedi’i chynllunio ar y cyd â’r awduron, gan deilwra sesiynau i gefnogi eu nodau a’u hamcanion cyffredinol. Bydd y weithgaredd gyntaf ar raglen eleni yn canolbwyntio ar ysgrifennu aml-genre,  yn ein Canolfan Ysgrifennu Cenedlaethol, Tŷ Newydd, o 11-13 Ebrill 2025.   

Mae’r awduron eleni yn dod o bob cwr o Gymru: o Ynys Môn, mynyddoedd Eryri, Sir Gaerfyrddin, o Faesyfed i Gaerdydd, pob un yn dod â phersbectif unigryw i’r byd llenyddol yng Nghymru gyda nhw.  

Er y bydd pob awdur yn canolbwyntio ar un prif ddarn o waith sydd ar y gweill mewn un genre, bydd y rhaglen yn eu hannog i archwilio ffyrdd newydd o weithio, gan ddatblygu eu creadigrwydd ymhellach. Gallwch ddarllen mwy am bob awdur unigol ar dudalen prosiect Cynrychioli Cymru.  

‘Mi fydd y cynllun yn fy ngalluogi i ddatblygu fel awdur, a bydd y dosbarthiadau  meistr yn fewnolwg amhrisiadwy mewn i’r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, a’n ffordd gwych o ddatblygu fel awdur a fel person yn yr un modd. Dwi methu aros i ddechrau!’ – Steffan Wilson-Jones 

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu a chefnogi ein carfan newydd o awduron, ac i ddilyn eu taith drawsnewidiol. 

Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.