Swydd:
Cynorthwy-ydd Tocynnau a Digwyddiadau
Dyddiad cychwyn:
Medi/Hydref 2024
Adrodd i:
Rheolwr Gweithredu
Lleoliad:
Gweithio o adre, gyda chyfarfodydd cyson yng Nghaerdydd / yn agos i Gaerdydd, teithio achlysurol i Lundain a’r gallu i deithio i ddigwyddiadau yn ôl yr angen.
Oriau:
Parhaol, llawn amser, 40 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh gyda rhywfaint o hyblygrwydd
Cyflog:
£24,000 y flwyddyn
Budd-daliadau:
20 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â gwyliau banc
Dyddiad cau:
12yp 6ed o Fedi 2024
Pwrpas yr elusen Concerts for Carers (CfC) yw hybu iechyd meddwl a lles gweithwyr y GIG a gofalwyr cyflogedig yn y DU a Gogledd Iwerddon. Rydym yn cyflawni’r diben elusennol hwn drwy ddarparu tocynnau am ddim a thocynnau gostyngedig i gerddoriaeth a digwyddiadau byw i’n buddiolwyr a thrwy roi grantiau i gyd-elusennau â phwrpas elusennol tebyg.
Mae CfC yn elusen ifanc gyda thîm bach, ond ymroddedig. Bydd potensial i ddatblygu ac ehangu’r rôl wrth i’r cwmni dyfu.
Cyfrifoldebau
• Goruchwylio gweinyddiad y wefan.
• Uwchlwytho digwyddiadau o fewn yr amser penodol i werthu tocynnau.
• Uwchlwytho a chadarnhau bod manylion y lleoliadau yn gywir a sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gyfredol ac yn berthnasol.
• Rheoli'r broses Balot, gan ddilyn y gweithdrefnau cytunedig.
• Dyrannu tocynnau i fuddiolwyr buddugol, a sicrhau bod y buddiolwyr wedi derbyn ac yn mynychu’r digwyddiad.
• Cadw mewn cysylltiad gyda’r lleoliad, partneriaid a hyrwyddwyr i sicrhau bod CfC yn cyflawni dyraniadau tocynnau ac yn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle.
• Goruchwylio a monitro ebyst a sianeli cymdeithasol ac ymateb i bob ymholiad, cwestiynau a sylwadau o fewn amser â thôn llais priodol.
• Monitro taliadau a chyfathrebiadau i sicrhau bod prosesau y wefan yn gweithredu'n effeithiol ac adrodd yn ôl pan yn briodol.
• Paratoi adroddiadau wythnosol ar gyfer y Rheolwr Gweithrediadau ar wybodaeth ac ystadegau y gofynnwyd amdanynt.
• Paratoi cyflwyniadau ar gyfer y Rheolwr Gweithrediadau a Chyfarwyddwyr CfC yn ôl yr angen i helpu datblygu Partneriaid.
• Gweithio gyda'r Rheolwr Gweithrediadau i dyfu partneriaethau lleoliad a chorfforaethol ac ehangu ein rhwydwaith buddiolwyr.
• Cydweithio â'r Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata i baratoi cynnwys ar gyfer llwyfannau cymdeithasol, gan gynnwys casglu tystebau ac ystadegau.
Cymwyseddau Craidd
• Bod yn gyfarwydd ag MS Office
• Sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a dadansoddi cryf. Mae sylw i fanylion yn allweddol
• Agwedd bositif a hyblyg tuag at waith yn hanfodol
• Y gallu i weithio'n annibynnol a rheoli amser eich hun yn effeithiol
I ymgeisio: CV a llythyr cais byr i terence@concertsforcarers.org.uk (drwy gyfrwng y Saesneg os gwelwch yn dda).