Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Parhaol

Gradd B: Cyflog o £25,026 - £27,988 (yn ddibynnol ar brofiad)

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Am y rôl

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am Gynorthwyydd Personol i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau (Gwasanaethau Ariannu’r Celfyddydau). Bydd y Cynorthwyydd Personol yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gefnogi a chydlynu gweithgaredd aelodau’r tîm a phrosiectau corfforaethol, ond eu prif ffocws fydd darparu cymorth a chefnogaeth weinyddol i’r Cyfarwyddwr. Bydd hyn yn cynnwys cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth, apwyntiadau/rheoli dyddiadur, teithio a threuliau. Bydd hefyd yn cynnwys cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd.

Amdanoch chi

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus profiad blaenorol a perthnasol o ddarparu gwasanaethau gweinyddol o safon uchel a chymorth rheng flaen o fewn tîm bach prysur, sy’n hwyluso gweithio hyblyg/mudol. Bydd ganddynt sgiliau TG datblygedig iawn. Mae’r gallu i weithio o’ch menter eich hun ac i flaenoriaethu yn hanfodol, ynghyd a sgiliau cyfathrebu da ac ymrwymiad i safonau uchel o ran gofal cwsmeriaid.

Yr Iaith Gymraeg

Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                         12:00 canol dydd, dydd Gwener 10 Mawrth 2023

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.

Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.