Mae’r cwmni cynhyrchu Adverse Camber wedi cyhoeddi prosiect cenedlaethol newydd a fydd yn dechrau yn ystod tymor yr hydref 2025 ac yn parhau tan wanwyn 2026, sydd a’r nod o gefnogi’r sector adrodd straeon Cymraeg yng Nghymru.
Mae Cysur y Sêr yn brosiect dwyieithog a arweinir gan y Gymraeg, sy’n ymwneud â datblygu straeon yn Gymraeg, parch amgylcheddol a gadael gwaddol effeithiol i genedlaethau’r dyfodol. Bydd y prosiect yn arwain at berfformiadau Stars and their Consolations ar daith ledled Cymru fis Mawrth tan fis Ebrill 2026.
Mae Adverse Camber wedi bod yn cydweithio â storïwyr o Gymru a storïwyr sy’n byw yng Nghymru am dros bymtheg mlynedd, gan eu cefnogi nhw i gynhyrchu a theithio gwaith ledled y DU ac yn rhyngwladol. Yn 2023, fe gydweithiodd Adverse Camber â’r storïwyr Daniel Morden a Hugh Lupton a’r cyfansoddwr o Gymru, Sarah Lianne Lewis, i ddatblygu Stars and their Consolations, yn dilyn y perfformiad cyntaf yng ngorllewin Cymru yn 2021.
Tra’n gweithio ar y cyfnod ymchwil a datblygu a siarad â storïwyr, partneriaid a chynulleidfaoedd Cymru, fe sylweddolodd y tîm bod perygl y gallai straeon a ysbrydolwyd gan awyr y nos gael eu colli oherwydd cynnydd mewn llygredd golau a llai o bobl yn rhannu straeon sêr yn eu bywydau bob dydd.
Roedd y tîm hefyd yn falch o sylweddoli’r posibilrwydd cyffrous o ddatblygu a darganfod mythau Cymraeg am batrymau sêr gyda chynulleidfaoedd a chymunedau, a darganfod beth sy'n digwydd pan adroddir chwedlau Groeg am y sêr yn Gymraeg.
“Ers canrifoedd, mae diwylliannau a chymunedau ym mhedwar ban byd wedi defnyddio awyr y nos i helpu i wneud synnwyr o batrymau cytserau mewn ffyrdd sy’n ein cysylltu ni â’n gorffennol pell a diweddar; sy’n ein cyfeirio ni, drwy ddaearyddiaeth, amser, y flwyddyn dymhorol a diwylliant. Straeon yw un o’r ffyrdd mwyaf addasadwy a dibynadwy o drosglwyddo gwybodaeth rhwng cenedlaethau. Rydym yn dathlu hunaniaeth unigryw ac amrywiol Cymru fel gwlad sy’n gwarchod ei Hawyr Dywyll a’i diwylliant, gan gofleidio straeon mewn llawer o wahanol ieithoedd a threftadaeth,” meddai Naomi Wilds, Cynhyrchydd Adverse Camber.
Bydd Cysur y Sêr yn cynnwys sesiwn hyfforddi breswyl yn Nhŷ Newydd, dan arweiniad y storïwyr o Gymru Tamar Eluned Williams a Mair Tomos Ifans. Mae’r prosiect bellach wedi’i gefnogi gan Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up.
Bydd Adverse Camber, Tamar a Mair yn gweithio gyda chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys 10 canolfan sy’n rhan o’r daith, ac yn cydweithio â storïwyr profiadol ac egin storïwyr er mwyn archwilio themâu a ffyrdd o weithio ynghyd mewn ffyrdd sy'n hygyrch ac yn ymwybodol o'r hinsawdd.
Mae gan Cysur y Sêr dri phrif ffocws;
1. Cefnogi a datblygu adrodd straeon Cymraeg.
Mae adrodd straeon yn ganolog i’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac fel rhan o ddatblygu straeon awyr y nos, bydd Adverse Camber yn recriwtio 8 artist dwyieithog a Chymraeg eu hiaith i ddatblygu eu repertoire straeon sêr, yn ddwyieithog ac yn y Gymraeg. Ac yn y pen draw yn arwain tri diwrnod o brosiectau cymunedol yn eu cymunedau yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi ei ddysgu. Bydd y prosiect yn comisiynu fersiynau Cymraeg o chwedlau Groeg sy'n ymwneud ag awyr y nos, a fydd yn cael eu recordio a'u cyflwyno i Gasgliad y Werin Cymru, gan ddiogelu’r straeon hyn ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn cryfhau ein gallu i drosglwyddo straeon i genedlaethau'r dyfodol trwy adrodd straeon llafar. Cyhoeddir manylion y galwad am storïwyr ar ddiwedd mis Gorffennaf.
"Mae’n hynod gyffrous y bydd y prosiect Sêr yn rhoi llawer o gyfleodd datblygu proffesiynol a chreadigol i storïwyr yng Nghymru, yn enwedig y rheiny sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu harfer. Mae diddordeb cynyddol yn y ffurf ar gelfyddyd yma, yn ogystal ag yn y repertoire o straeon a chwedlau gwerin yr ydym yn gweithio gyda nhw, a bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i archwilio a datblygu repertoire newydd o straeon mewn cysylltiad â'r cytserau a'r awyr dywyll. Gallwn hefyd gryfhau ein rhwydweithiau creadigol, rhannu sgiliau, a pharhau i ddatblygu arfer adrodd straeon cynaliadwy ledled Cymru."
Tamar Eluned Williams Storïwr Cymraeg Arweiniol, prosiect Cysur y Sêr.
Mae Mair Tomos Ifans, Storïwr Cymraeg Arweiniol ar brosiect Cysur y Sêr hefyd yn cofio rhannu,
“Pe bawn i yn seren fach loyw lân yn gwenu ar fron y nos
Mi fynnwn oleuo'r holl gonglau du a'r fordd sydd yn mynd i'r ffos... "
Dwi'n cofio canu honna yn yr ysgol Sul ers talwm. Plentyn yn dymuno bod yn seren er mwyn goleuo llwybrau tywyll. Ac mae cymaint o lwybrau drwy daith bywyd. Mae rhai yn dywyll a dyrys a rhai yn ddisglair ac yn olau. Gall straeon fod yn ganllaw wrth geisio dilyn ein llwybrau.
Gallwn weld y wybren - yr haul, y sêr a'r lleuad, y gofod - ond tydi nhw ddim yn rhan o'n byd ni. Maen nhw uwchben. Tu hwnt i'n byd ni. Yn union fel byd y Tylwyth Teg. Y Byd Arall lle mae creaduriaid Arall Fydol yn bodoli. Ac mae'r bydoedd hyn yn ein hamgylchynu, yn gorfforol, yn haniaethol, yn ddiwylliannol a dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy i gael gwrando ac ymchwilio, dysgu ac addasu, rhyfeddu a rhannu a chael fy ngoleuo gan Gysur y Sêr."
2. Cyfuno straeon ac awyr y nos, gan gefnogi ymwybyddiaeth hinsawdd
Mae Adverse Camber a phrosiect Awyr Dywyll yn rhannu’r un ddealltwriaeth ynglŷn â sut mae llygredd golau yn effeithio ar ddiwylliant hinsawdd a chymdeithas ac iechyd.
Yn ystod y prosiect bydd cyfres o Fforymau Ar-lein yn gwahodd seryddwyr, partneriaid treftadaeth, storïwyr ac aelodau o'r gymuned i gysylltu â ni a chymryd rhan. Bydd y sesiynau hyn yn rhannu gwybodaeth ac yn ysgogi dysgu am straeon cytserau yn Hemisffer y Gogledd, gan ganolbwyntio ar wybodaeth Cymru ac adnabod bylchau yn ein gwybodaeth ac ardaloedd sydd â photensial. Bydd dyddiadau’r Fforymau Ar-lein yn cael eu rhyddhau dros y misoedd nesaf.
“Mae Prosiect Nos, Partneriaeth Awyr Dywyll dan arweiniad Parc Cenedlaethol Eryri, wedi bod yn arwain gwaith ledled Cymru i leihau llygredd golau i ddiogelu trysor diwylliannol – awyr y nos. Gyda 98% o boblogaeth y DU bellach yn byw dan awyr sydd wedi’i lygru â golau, mae'r adnodd diwylliannol a naturiol hwn wedi'i golli i lawer. Wrth i lygredd golau gynyddu, mae wedi erydu rhan o'n hunaniaeth. Mae gan y Cymry dreftadaeth hir o adrodd straeon a defnyddio'r sêr yn eu bywydau bob dydd. Mae'r ffordd hon o fyw bellach wedi'i cholli, wedi mynd yn angof nid i niwl amser, ond i ddisgleirdeb goleuadau artiffisial. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn dod â'r mater hwn dan sylw cymunedau newydd, cymunedau y mae llygredd golau yn rhywbeth cwbl newydd iddynt, gan godi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw gweithredu ar lygredd golau, a diogelu ein hawyr dywyll ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol," Dani Robertson, Prosiect Nos, Partneriaeth Awyr Dywyll.
3. Defnyddio creadigrwydd i helpu cymunedau lleol, gwybodaeth, iechyd a lles
Bydd Adverse Camber yn defnyddio straeon a chysylltiad i helpu i gefnogi pobl ifanc a chymunedau amrywiol i glywed, dysgu, mwynhau ac ailadrodd straeon Cytserau Awyr y Nos yn eu hiaith ddewisol a dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru. Mae Adverse Camber yn gweithio mewn partneriaeth â People Speak Up a phartneriaid theatr, Theatrau Sir Gâr i archwilio sut mae’r straeon hyn ac ymgysylltu â natur yn cefnogi lles mewn cyfnod o argyfwng. Bydd storïwyr yn arwain nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys wythnos gyfan o adrodd straeon gyda PSU, gan ddefnyddio’r broses i helpu iechyd meddwl ymhlith eu grwpiau a'u cyfranogwyr lleol.
Bydd gwaddol y prosiect yn byw yng Nghasgliad y Werin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a fydd yn gasgliad sain o straeon a grëwyd gan y cymunedau sy'n rhan o'r prosiect.
Dwedodd Naomi, “Mae'r hyn a ddechreuodd fel awydd i atgoffa cynulleidfaoedd o harddwch a rhyfeddod straeon awyr y nos, wedi agor trafodaethau pellach ac ymgyrch am newid i'n helpu i gynnal negeseuon allweddol am bwysigrwydd awyr y nos yn ein diwylliant a'n cymdeithas, a sut rydym yn sicrhau ein bod yn parhau i rannu hyn trwy genedlaethau ac ieithoedd."
Yn dilyn y prosiect ceir perfformiad a arweinir yn Saesneg o Stars and their Consolations, a fydd yn teithio ledled Cymru fis Mawrth i fis Ebrill 2026.
Mae manylion pellach ynglŷn â’r prosiect a’r daith i’w gweld ar adversecamber.org. Gyda chefnogaeth Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up.
Comisiynwyd Stars and their Consolations yn wreiddiol ar gyfer Beyond the Border 2021 a chefnogwyd y cyfnod ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Thŷ Cerdd gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr.