Contract: Llawrydd/Contract Cyfnod Penodol
Hyd: Diwedd mis Mai - mis Rhagfyr 2025
Ffi: £8,750–£12,250 (yn seiliedig ar brofiad a 35 niwrnod yn fras dros gyfnod y contract)
Lleoliad: Abertawe (gyda gweithio hyblyg yn ôl yr angen)
Dyddiad cau i ymgeisio: canol dydd, 7 Mai 2025
Ynghylch y rôl
Mae Cyngor Abertawe’n chwilio am Gynhyrchydd Digwyddiadau'r Celfyddydau a Diwylliant profiadol a hynod drefnus i arwain y gwaith o gyflwyno Penwythnos Celfyddydau Abertawe — dathliad o ddiwylliant ar draws y ddinas ym mis Hydref neu fis Tachwedd eleni (dyddiad terfynol i'w gadarnhau), yn dilyn cynnal Penwythnos Celfyddydau Abertawe am y tro cyntaf yn 2024.
Bydd Penwythnos Celfyddydau Abertawe, a gynhelir mewn lleoliadau a mannau cyhoeddus yn y ddinas, yn arddangos dawn greadigol drwy berfformiadau byw, arddangosfeydd, gweithdai, a mwy.
Rydym yn chwilio am gynhyrchydd â hanes o gyflwyno digwyddiadau diwylliannol uchelgeisiol a chynhwysol. Byddwch yn hyderus wrth reoli partneriaethau, cydlynu timau, goruchwylio logisteg, arwain ar amserlennu, a sicrhau bod y cyflwyno o ansawdd uchel o'r dechrau i'r diwedd.
Cyfrifoldebau Allweddol
Arwain y gwaith o ddatblygu, cynllunio a chyflwyno Penwythnos Celfyddydau Abertawe, gan weithio'n agos gydag uwch-reolwyr y cyngor, swyddogion y cyngor, partneriaid, lleoliadau, a'r sector diwylliannol ehangach.
Rheoli amserlenni cynhyrchu, cyllidebau, contractau, a logisteg digwyddiadau.
Gweithio'n agos gyda'r tîm marchnata digwyddiadau.
Comisiynu a chydlynu talent, lleoliadau a thimau creadigol.
Goruchwylio unrhyw isadeiledd digwyddiadau, hygyrchedd, trwyddedu, a gofynion iechyd a diogelwch nad ydynt o fewn unrhyw feysydd comisiynu.
Monitro cynnydd yn erbyn amcanion y cyngor a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
Sicrhau bod cynhwysiant, cynaliadwyedd a chreadigrwydd wrth wraidd y modd y cyflwynir y penwythnos.
Arwain ar gyflwyno digwyddiadau yn ystod y penwythnos a darparu mewnbwn gwerthuso ar ôl y digwyddiad.
Rydym yn chwilio am rywun a chanddo:
- Brofiad sylweddol o gynhyrchu digwyddiadau celfyddydol neu ddiwylliannol o ansawdd uchel, yn ddelfrydol gydag elfennau sy'n wynebu'r cyhoedd ac amryfal bartneriaid.
- Sgiliau amserlennu digwyddiadau cyhoeddus cryf.
- Sgiliau trefnu a rheoli prosiectau cryf, gan gynnwys rheoli cyllideb.
- Hyder wrth weithio ar draws amryfal ffurfiau a fformatau celf, o berfformiadau byw i'r celfyddydau gweledol.
- Profiad o weithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau creadigol a grwpiau cymunedol.
- Dull cydweithredol a chynhwysol o weithio gyda phobl.
- Sgiliau datrys problemau digyffro, yn enwedig mewn amgylcheddau byw.
Cais
I wneud cais, anfonwch:
- Ddatganiad byr (uchafswm o 2 dudalen) yn amlinellu eich profiad a'ch agwedd at ddigwyddiadau fel Penwythnos Celfyddydau Abertawe.
- Eich ffi.
- Eich CV.
- 2 eirda sy'n dangos eich profiad
- Enghreifftiau o waith blaenorol (neu ddolen i'ch portffolio)
Cyfweliadau ar-lein: 12 a 13 Mai 2025
E-bostiwch eich cais at kate.wood@abertawe.gov.uk erbyn canol dydd, 7 Mai 2025
Ei ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU