Bydd pob un o’r chwe Chynhyrchydd Ymgysylltu yn gyfrifol am gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chanlyniadau ar gyfer Artes Mundi 11. Fel ffordd o ganfod a strwythuro’r agwedd hon ar ein rhaglenni cyhoeddus cyffredinol, bydd pob Cynhyrchydd Ymgysylltu’n cael ei neilltuo i gynnal ymchwil manwl i un o artistiaid Artes Mundi 11 sydd ar y rhestr fer. Fel rhwydwaith, ac ar y cyd â gweddill tîm Artes Mundi, byddwch yn canfod elfennau cyffredin a chysylltiadau thematig rhwng gwaith a dulliau’r artistiaid ar y rhestr fer, gan greu cronfa hael ac eang o adnoddau a gweithgareddau creadigol ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

Bydd y Cynhyrchwyr Ymgysylltu’n frwdfrydig am ddiwylliant a syniadaeth ysbrydoledig, cynhwysol a chreadigol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y rheiny sydd ag ymagwedd ddychmygus a hyblyg tuag at gyrraedd canlyniadau ardderchog. Mae’r rôl yn gofyn am y gallu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chyfleu syniadau cymhleth yn glir drwy sgwrsio a chreu.

Does dim rhaid i chi fod ag unrhyw gymwysterau neu brofiad gwaith penodol i fod yn gymwys ar gyfer y rôl yma. Fodd bynnag, yn sgil y cyfrifoldebau a’r tasgau sydd i’w gwneud, byddem yn hoffi clywed gan y sawl sydd â phrofiad drwy addysg, cyflogaeth flaenorol neu brofiadau bywyd penodol megis artistiaid, ymchwilwyr neu ymarferwyr creadigol o bob disgyblaeth, profiad neu lefel gyrfa.

Telerau’r Swydd 

Cynigir y swydd hon fel contract 6 mis ar sail llawrydd. Mae ffi gynhwysol o £2,500 ar gael am 10 diwrnod/75 awr o waith, wedi’i rannu ar draws 20 wythnos o Fedi 2025-Chwefror 2026. Bydd amser a dyddiadau talu cyflog yn cael eu hamserlenni a’u cytuno unwaith y byddwch yn y swydd. Mae arian ar gael ar gyfer hyfforddiant i ysgrifennu a chyflwyno teithiau disgrifiadau sain a hyfforddiant ar gyfer ymwybyddiaeth o anabledd ac ati yn ôl yr angen. 

Gofynnir i ddeiliad y swydd gyflwyno ac ymgymryd â gwaith ar rai nosweithiau a phenwythnosau. Rhoddir rhybudd priodol.

 

Dyddiad cau: 16/09/2025