Caernarfon fydd cartref cynhadledd fyd eang ‘On The Move’ gyda dros 80 o Arweinwyr Diwylliannol ac artistiaid byd-eang yn ymgasglu ar gyfer ei Fforwm Symudedd Diwylliannol 2024 ar y 25-26 o Ebrill, a hynny am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.

 

Wedi ei drefnu gan ‘On the Move’ a’i gynnal gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i hasiantaeth fewnol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, cafodd y dewis o Gaernarfon fel lleoliad ei ysgogi gan yr angen i gefnogi cydweithio diwylliannol rhyngwladol y tu hwnt i’r dinasoedd mawr ac mewn amgylcheddau mwy gwledig.

 

On the Move yw'r rhwydwaith proffesiynol blaenllaw ar gyfer asiantaethau sy'n darparu gwybodaeth i gefnogi artistiaid a sefydliadau diwylliannol i weithio yn rhyngwladol. Mae ei Fforwm Symudedd Diwylliannol yn blatfform i rannu gwybodaeth ac i drafod a dychmygu ffyrdd newydd o weithio i artistiaid a chwmnïau diwylliannol mewn byd cynyddol gymhleth. Caiff ei gyd-ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru, a’i gyflwyno mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r British Council sydd hefyd yn cefnogi ymweliad a Chymru i ddirprwyaeth o Wcrain rai dyddiau cyn y Fforwm. Y prif bynciau dan drafodaeth fydd rhyddid mynegiant, creu noddfa i artistiaid sy'n ffoi rhag erledigaeth ynghyd â heriau byd-eang eraill gan argyfwng hinsawdd a’r sgiliau sydd eu hangen i gydweithio'n rhyngwladol.

 

Mae Symudedd Diwylliannol yn golygu gallu artistiaid a gweithwyr diwylliannol  deithio a gweithio'n rhyngwladol, rhannu eu celf, ac uno â phobl ar draws ffiniau. Mae enghreifftiau'n cynnwys perfformiadau sy’n cael eu cynhyrchu ar y cyd â gwledydd eraill, preswylfeydd, gweithdai, teithio neu arddangos mewn digwyddiadau i hyrwyddwyr, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol mewn cyd-destun rhyngwladol.

 

Mae artistiaid yn aml yn wynebu rhwystrau sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio ar draws ffiniau. Ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw artistiaid o Gymru a'r Deyrnas Unedig bellach yn gymwys ar gyfer cyllid Ewropeaidd megis Rhaglen Ewrop Greadigol neu Gronfa Strwythurol Ewrop,  ac mae hyn wedi lleihau yn sylweddol y cyllid sydd ar gael i gyd ariannu’r sector greadigol,  gan greu rhwystrau ychwanegol i artistiaid yn ei hymgais i deithio a gweithio’n rhyngwladol.

 

Yn ôl Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae'n anrhydedd croesawu cydweithwyr diwylliannol rhyngwladol i Gymru a Chaernarfon. Mewn byd sydd wedi cael ei bolareiddio, mae'r celfyddydau a diwylliant yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin undod a dealltwriaeth. Rydym wedi cael ein hysbrydoli’n arbennig gan artistiaid alltud a’r rhai sy’n amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol a rhyddid mynegiant, ac edrychwn ymlaen at wrando ar gynrychiolwyr o wahanol genhedloedd am eu dulliau o gefnogi’r celfyddydau.”

Dywedodd Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a chyd-sefydlydd Gwybodfan Celf y DU (Arts Infopoint UK), ac yn wreiddiol o Gaernarfon:

“Gyda’r heriau byd-eang presennol, mae artistiaid, a chwmnïau mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â dinasoedd ar draws y byd yn chwilio am gymorth ymarferol i weithio’n rhyngwladol mewn ffordd gynaliadwy. Edrychaf ymlaen at ddysgu am ffyrdd mwy hygyrch o weithio sy’n deg i bobl ac i’r blaned, ac i rannu ein cynlluniau ni sy’n seiliedig ar Ddeddf arloesol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydyn ni wedi sefydlu Gwybodfan yma yng Nghymru sy’n rhan o rwydwaith On the Move i helpu darparu gwybodaeth ar faterion fel fisas, trethiant, Brexit a chynaliadwyedd i artistiaid.”

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae cynnal y digwyddiad hwn yn Galeri yn ein hatgoffa o gyd-fuddsoddiad enfawr gan gyllid Ewropeaidd i seilwaith cyhoeddus yn y celfyddydau yma ac ar draws y byd. Mae toriadau diweddar i’r celfyddydau yng Nghymru yn ein hysgogi i archwilio dulliau newydd o fuddsoddi sy’n cefnogi artistiaid yn lleol ac yn fyd-eang. Rydym wedi gweld bwlch sylweddol mewn cyllid ers i artistiaid o Gymru gael eu rhwystro rhag gwneud cais am gyllid Rhaglen Ewrop Greadigol. Byddai Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig yn ddoeth i gefnogi ein sector trwy ail-ymuno â’r rhaglen hollbwysig hon.”

Cyn ymweld â Chaernarfon,  dywedodd Bojana Panevska, Llywydd On the Move:

“Rhan o’n strategaeth i barhau i weithio gyda Chymru a’r DU y tu hwnt i Brexit yw i ymgysylltu trwy ein rhaglenni a digwyddiadau fel y Fforwm Symudedd Diwylliannol. Cawsom ein hysgogi i ddewis Caernarfon fel lleoliad gan ein hawydd i gefnogi cydweithio diwylliannol rhyngwladol y tu hwnt i’r dinasoedd mawr ac mewn ardaloedd mwy gwledig.”

Dywedodd Yohann Floch, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a churadur y Fforwm Symudedd Diwylliannol:

“Bydd Fforwm Symudedd Diwylliannol 2024 yn ein cefnogi ni a chydweithwyr o bob rhan o’r byd i greu rhaglenni datblygu sgiliau proffesiynol rhyngwladol newydd. Mae'r fforwm hwn yn llwyfan i rannu profiadau amrywiol mewn ffordd sydd o fudd i bawb. Byddwn yn edrych ar fentrau hyfforddi sy’n meithrin cydweithio trawsffiniol cydradd fydd yn cael effaith barhaol.”

Mae’r Fforwm Symudedd Diwylliannol yn dod â darparwyr gwybodaeth ryngwladol ynghyd i fynd i’r afael â’r heriau hyn ac archwilio ffyrdd o wella cyfleoedd rhyngwladol i artistiaid. Fe’i cynhelir am y tro cyntaf yn y DU yn Galeri, Caernarfon 25-26 Ebrill, 2024.