Dydd Llun, 1 Awst 2022 am 1pm ym Mhabell Llywodraeth Cymru, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn eich gwahodd draw i Wrando ar y Geiriau: y Gymraeg a ieithoedd brodorol y byd.

Yn ystod y digwyddiad hwn bydd Mererid Hopwood a Gareth Bonello yn trafod iaith a geiriau yng nghyd-destun Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig. Bydd y bardd, ac ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru, yr Athro Mererid Hopwood, yn sgwrsio gyda’r cerddor Dr. Gareth Bonello yn ogystal â darllen eu cerddi a rhannu caneuon.

Dydd Mercher, 3 Awst am 11am ym Mhabell Llywodraeth Cymru, bydd Einir Siôn, Ysgogydd  y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Jeremy Evas, Pennaeth Prosiect 2050, Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno trafodaeth banel ar y thema Y Gymraeg a'r celfyddydau: ar gael i bawb?

Cadeirydd y panel fydd Elen ap Robert, aelod o Gyngor Ymddiriedolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn ymuno â hi bydd, Jên Angharad, Prif Weithredwr Artis Cymuned ym Mhontypridd, yr Artist Mared Jarman a’r cyflwynydd teledu Ameer Davies-Rana.

Dydd Sadwrn, 6 Awst am 10am yn Y Sfferen, Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg, cynhelir trafodaeth dan yr enw Natur Greadigol: Dychmygu Dyfodol y Byd trwy’r Celfyddydau.

Bydd yr artistiaid Dylan Huw, Heledd Wyn a Marc Rees yn cael eu holi gan Judith Musker Turner, Rheolwr Portffolio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, a Joe Roberts, Prif Gynghorydd Arbenigol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, am brosiectau gan gynnwys Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, EGIN, a GALWAD. Gan siarad heddiw, dywedodd Judith Musker Turner:

“Yn 2020, fe ddechreuon ni bartneriaeth newydd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda’r nod o feithrin y berthynas rhwng y celfyddydau a'r amgylchedd naturiol, fel rhan o ymrwymiad y ddau gorff i wella lles amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

“Gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar fin mynd ati i gyd-ddylunio Strategaeth Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau, dyma drafodaeth amserol am rôl allweddol y celfyddydau wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.”

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r digwyddiadau hyn ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

DIWEDD                                                                     25 Gorffennaf 2022