Eu nod yw trawsnewid potensial arwain y genhedlaeth nesaf o artistiaid, curaduron, cynhyrchwyr a phobl greadigol o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol llai breintiedig.

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i gyfrannu arian at y rhaglen. Bydd arian hefyd yn dod gan y Gronfa Gelf, yr Alban Greadigol, Sefydliad Garfield Weston a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Mae rhaglenni ychwanegol eleni gan gynnwys Traffordd Curaduron Jerwood ac Arweinwyr Creadigol Newydd Jerwood.

Bydd bwrsarïau creadigol Weston Jerwood yn cynnig rhaglen 18 mis o drawsnewid i sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru a gwledydd eraill Prydain. Y nod yw eu helpu i ddod yn sefydliadau mwy cynhwysol drwy ddarparu cymrodoriaethau unigryw i artistiaid eithriadol yn gynnar yn eu gyrfa, curaduron a chynhyrchwyr o gefndiroedd llai breintiedig a chymorth pwrpasol i ddatblygu eu sefydliadau.

Dywedodd Kath Davies, Cyfarwyddwr (Gwasanaethau Ariannu’r Celfyddydau), Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn o fod yn bartner yn y cynllun arloesol yma. Rydym ni eisoes wedi gweld budd enfawr i bobl ifanc a’r sefydliadau lletyol. Rydym ni’n edrych ymlaen at dyfu nifer y lleoliadau i Gymru.

"Rydym ni’n edrych ymlaen at ariannu 6 lleoliad, gyda 2 wedi’u clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Byddwn ni’n gwahodd sefydliadau lletyol posibl i fynegi diddordeb yn ystod Medi."

Dywedodd Lilli Geissendorfer, Cyfarwyddwr Celfyddydau Jerwood:

"Mae hygyrchedd teg i weithio yn y celfyddydau o hyd yn fater hollbwysig i’r sector. Mae pobl o gefndiroedd llai breintiedig wedi’u tangynrychioli’n ddifrifol ymhlith artistiaid a gweithwyr mewn theatrau, gwyliau, orielau, amgueddfeydd a sefydliadau celfyddydol - yn enwedig mewn swyddi arwain yng Nghymru a Phrydain.

"Rydym ni’n adeiladu ar ddeng mlynedd o brofiad yn y maes gan gynnig cymorth wrth recriwtio, cymrodoriaethau ystyrlon a chyfleoedd datblygu i leihau’r rhwystrau i arweinwyr creadigol talentog. Bydd ein bwrsarïau nesaf yn canolbwyntio ar swyddogaethau creadigol ac artistig ac ar lansio dau brosiect peilot sy’n targedu curaduron ac arweinwyr newydd. Dyma ddau faes sy’n anodd i bobl o gefndiroedd llai breintiedig.

"Nawr mae’r prosiectau hyn yn gallu digwydd, diolch i haelioni a gweledigaeth ein harianwyr partner."

Diwedd      30 Awst 2019