Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd i helpu lleoliadau, artistiaid a chymunedau i ddeall eu hardal yn well a helpu cymunedau i ffynnu.

Y Cyngor a gomisiynodd y pecyn a Lisa Baxter o’r Profiad Busnes a’i datblygodd.  Cymerodd 40 unigolyn a 3 lleoliad ran wrth ei ddatblygu gan gynnwys:

  • awdurdodau lleol
  • Cynghorwyr
  • cymunedau
  • busnesau
  • cymdeithasau
  • pobl ifanc
  • aelodau bwrdd
  • artistiaid a gweithwyr yn y sector diwylliannol

Y 3 lleoliad oedd:

  • Theatr Felin-fach, Sir Gaerfyrddin
  • Theatrau Rhondda Cynon Taf
  • Canolfan Ucheldre, Caergybi

Ar ran y Cyngor dywedodd y Rheolwr Portffolio, Amanda Loosemore:

"Rydym ni’n credu’n gryf yng ngallu'r celfyddydau i rymuso pobl, cyfoethogi bywyd, dathlu amrywiaeth a hyrwyddo cydlyniant cymunedol fel y dywed ein Cynllun Corfforaethol, Er Budd Pawb.

"Roedd y rhaglen a ddatblygwyd gan Lisa Baxter yn gweithio gyda lleoliadau, y sector celfyddydol a chymunedau i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o'u hardal leol. Roedd hefyd yn fodd i gefnogi iechyd a lles, cydlyniant, twf, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’n fwy perthnasol nag erioed gyda’r pandemig a’i broblemau.

"Roedd y rhaglen lwyddiannus yn herio pawb a gymerodd ran gan esgor ar syniadau newydd am ein gwaith gyda’n cymunedau. Gobeithio y caiff llawer o artistiaid a sefydliadau celfyddydol y pecyn cymorth yn ddefnyddiol gan ei addasu ar gyfer eu  lleoliad, eu gwaith a'u cymuned."

Meddai Lisa Baxter:

"Nid un goeden sy’n gwneud coedwig ac mae pob coeden yn rhan o ecosystem y goedwig. Nid coed ar eu pen eu hunain ydym. Rhaid inni gyfrannu at y goedwig fwy.

"Mae cysylltu â’n cymuned yn hanfodol drwy eu gwasanaethu. Wedyn gallwn greu gwaith sydd o werth i’n cymuned. Bwriad y pecyn yw rhoi cymorth i sefydliadau celfyddydol ac artistiaid wrth ailddechrau."

Mae'r pecyn cymorth ar ein gwefan - https://arts.wales/cy/adnoddau/cynllunio-gwerth-ir-cyhoedd

Diwedd                                Dydd Mercher 10 Tachwedd 2021