Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi mai Michael Elliott fydd ei Brif Weithredwr dros dro – tan 2020 roedd yn Brif Weithredwr ABRSM a chyn hynny bu'n Brif Weithredwr Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban a Chyfarwyddwr Diwylliannol Cyswllt Liverpool Culture Company. Mae hefyd wedi arwain consortia o Brif Swyddogion yn system gyllido'r celfyddydau, mewn byrddau croeso rhanbarthol, ac yn y sectorau diwylliannol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a Lerpwl.
Gan groesawu Michael, dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Pleser o’r mwyaf yw croesawu Mick yn Brif Weithredwr Dros Dro ar Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae ganddo brofiad anhygoel o ddwfn ac eang yn y celfyddydau, yn sgil dal swyddi fel Prif Weithredwr mewn corff cyllido’r celfyddydau ac mewn sefydliadau celfyddydol, yn ogystal â Chyfarwyddwr Diwylliant yn Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU. Bydd unrhyw un sydd wedi llwyddo yn arholiadau cerddoriaeth ABRSM yn ddiweddar yn gyfarwydd â'i enw gan ei fod ar y tystysgrifau! Arweiniodd Mick y sefydliad mawr hwn gyda rhagoriaeth arloesol, gan ddarparu arholiadau cerddoriaeth a deunyddiau addysgol i dros 90 o wledydd.
“Mae gan Mick brofiad pwysig o lywodraeth ddatganoledig gan iddo dreulio cyfnod yn yr Alban. Mae wedi bod yn arweinydd celfyddydol mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol mawr ond mae ei fryd ar gyrraedd pob cymuned drwy'r celfyddydau. Mae ganddo ymrwymiad dwfn i ehangu ymgysylltiad â chynulleidfaoedd a chyfranogwyr amrywiol.
“Bydd cyfraniad Mick yn amhrisiadwy dros y misoedd nesaf wrth i ni fynd ati i benodi Prif Weithredwr parhaol. Ynghyd â’i brofiad eang, mae’n llawn edmygedd o’r agenda ddiwylliannol a chymdeithasol yr ydym wedi ymrwymo iddi yng Nghymru. Bydd yn gwneud gwahaniaeth”.
Gan ymateb i'w benodiad, meddai Michael Elliott:
“Mae creadigrwydd, y celfyddydau, a diwylliant yn allweddol i iechyd a llesiant unigolion, cymunedau, a gwledydd ac maent yn chwarae rhan arwyddocaol o ran ein helpu ni oll i oresgyn heriau bywyd.
“Mae ymrwymiad Cymru, fel cenedl, i lesiant cenedlaethau’r dyfodol gyda datblygiad cynaliadwy sy’n cofleidio diwylliant wrth ei wraidd wedi ysbrydoli artistiaid, sefydliadau celfyddydol, a chymunedau ar draws y byd.
“Mae mor bwysig ag erioed bod Cyngor Celfyddydau Cymru a’i lu o bartneriaid lleol a chenedlaethol yn parhau i barchu, galluogi, a grymuso cymunedau ac artistiaid i greu ac ysbrydoli er mwyn helpu i ddatblygu gwydnwch, gobaith, dysgu a chyfathrebu.
“Yn fy rôl fel Prif Weithredwr Dros Dro, byddaf yn canolbwyntio ar gynorthwyo a chynghori Cyngor y Celfyddydau a’i dîm rhagorol i gyflawni ei ymrwymiadau, i addasu i heriau newydd ac uniongyrchol, ac i baratoi ar gyfer dyfodiad Prif Weithredwr parhaol ac adolygiadau dilynol. Er mwyn gwneud hynny'n llwyddiannus, rwy'n edrych ymlaen at weithio’n agos ag artistiaid, sefydliadau celfyddydol, cymunedau, a phartneriaid ledled Cymru.”
Mae penodiad Michael yn Brif Weithredwr dros dro yn cynnwys rôl Swyddog Cyfrifyddu Cyngor Celfyddydau Cymru, a chymeradwywyd yr agwedd hon ar ei rôl newydd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf.
Penodir Michael yn Brif Weithredwr dros dro Cyngor Celfyddydau Cymru yn y lle cyntaf am chwe mis, gyda'r posibilrwydd o estyniad, tra bod y gwaith o chwilio am Brif Weithredwr parhaol yn dechrau.
DIWEDD Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022
Nodiadau i olygyddion:
- Mae diddordebau Michael yn y celfyddydau ac addysg i'w gweld nid yn unig yn ei swyddi proffesiynol blaenorol, ond hefyd yn rhai o'i rolau cyfredol fel swyddog anweithredol megis Cadeirydd y Gymdeithas Ymerodrol i Athrawon Dawns, Llywodraethwr Conservatoire Cerddoriaeth a Dawns Trinity Laban, Ymddiriedolwr Ballet Brenhinol Birmingham a Dirprwy Ganghellor Prifysgol Wolverhampton.
- Bydd Michael wrth ei ddesg fel Prif Weithredwr dros dro Cyngor Celfyddydau Cymru o 14 Mawrth 2022 ymlaen.
Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau at swyddfa’r wasg Cyngor Celfyddydau Cymru – cyfathrebu@celf.cymru neu 029 2044 1344 / 1307